Hanes Gwesty’r Traethau
Prestatyn, Gogledd Cymru
Enw gwreiddiol Gwesty’r Traethau oedd Gwesty’r Grand, ond cafodd ei ailenw’n ddiweddarach yn Stradbrook House. Yn ôl un o lyfrau ymwelwyr tref Prestatyn, roedd yn adeilad cyfandirol yr olwg, yn bencadlys i’r clwb golff ac yn westy modern.
Gwesty’r Grand
Un o olygfeydd mwyaf trawiadol Prestatyn yn ôl pob sôn oedd Gwesty’r Grand a’i oleuadau llachar yn y nos. Daeth tad y comedïwr George Formby i aros yma am gyfnod oherwydd afiechyd, gan geisio gwellhad yng ngwynt y môr a’r bryniau tywodlyd gerllaw. Yn y dyddiau cynnar, cafodd Gwesty’r Grand ei ddefnyddio fel ysgol, clwb hwylio a phencadlys Clwb Golff Prestatyn. Yn ystod y cyfnod hwn, ychwanegwyd estyniad sylweddol, gan drosi’r adeilad yn westy mawr 70 ystafell.
Y Clwb Golff cyn adeiladu’r Gwesty
Yr Ystafell Fwyta sef ein Ystafell Frecwast heddiw
Pontins
Yn 1959 fe wnaeth yr adeilad newid dwylo ac ar ddiwedd y 1960au prynwyd y safle gan gwmni Pontins, a oedd yn bwriadu adeiladu gwersyll gwyliau mawr ar y tir gerllaw. Roedd y gwesty yn cynnig llety a phob pryd bwyd, ac ychwanegwyd y chalets deulawr ar yr ochr arall i’r ffordd. Yn wahanol i chalets eraill, nid oedd ceginau nac ystafelloedd byw yn y chalets hyn a byddai’r gwesteion yn cerdded i’r gwesty ar gyfer prydau bwyd. Yn 1974, cynhaliwyd y twrnament snwcer proffesiynol/amateuriaid cyntaf yn y gwersyll, gan ddenu chwaraewyr adnabyddus fel ‘Hurricane’ Higgins, Steve Davis a Ray Reardon. Daeth y digwyddiad yn un blynyddol, gan ddenu llawer o sylw.
Sefydlu Gwesty 4 Seren y Traethau
Gwerthodd Pontins y gwesty yn 1999 ac erbyn hyn mae Gwesty 4 Seren y Traethau, fel y mae bellach yn cael ei alw, wedi’i drawsnewid yn llwyr yn dilyn buddsoddiad o £3.2 miliwn. Heddiw, y gwesty 78 ystafell wely, ynghyd â chyfleusterau hamdden, yw un o’r gwestai mwyaf poblogaidd ar arfordir Gogledd Cymru a’r perchennog yw Castle Collection Hotel Group.
**Hawlfraint. Prynwyd y delweddau a ddefnyddir gan Harry Thomas**