Dathlu 50 mlwyddiant y ffilm Holiday On The Buses
22 a 23 Gorffennaf
Dewch i aros gyda ni yng ngwesty 4 seren, Gwesty’r Traethau a mwynhau penwythnos o ddathliadau i nodi 50 mlynedd ers ffilmio ‘Holiday on the Buses’ yn nhref Prestatyn.
Dathlu 50 mlwyddiant y ffilm ‘Holiday On The Buses’
Y ffilm gomedi ‘Holiday on the Buses’ oedd y trydydd cynhyrchiad yn seiliedig ar y gyfres deledu ‘On the Buses’. Yr actorion Reg Varney a Doris Hare oedd sêr y ffilm hon a gafodd ei ffilmio yng ngwersyll gwyliau Pontin’s Prestatyn yn 1973. I nodi’r achlysur hwn, mae’r asiant ymddangosiadau personol Richard Coghill wedi trefnu digwyddiad i dathlu 50 mlwyddiant y ffilm ym Mhrestatyn ar 22 a 23 Gorffennaf.
Bydd aelodau’r cast, criw a staff Pontin’s yn 1973, yr ymwelwyr a gafodd rannau cefndir yn y ffilm, ac edmygwyr y ffilm, oll yn dod ynghyd i ddathlu dros y penwythnos. Mae rhaglen y penwythnos yn cynnwys sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb, cyfle i dynnu llun gyda’r cast a’r props, taith ar fws i ymweld â lleoliadau’r ffilm, dangosiad o’r ffilm a sesiynau llofnodion.
Pam aros gyda Ni
Gwesty’r Traethau yw’r dewis delfrydol os ydych yn chwilio am rywle i aros ar gyfer dathliadau 50 mlwyddiant ‘Holiday On The Buses’ . Rydym mewn lleoliad gwych ar Draeth Barkby ac o fewn 5 munud i ganol tref hyfryd Prestatyn, mae gennym ddewis eang o ystafelloedd chwaethus, gwasanaeth o’r safon uchaf, pob math o ddewisiadau bwyd gan gynnwys Bar a Bistro’r Promenâd, sy’n cynnig bwyd gwych a golygfeydd godidog.
Gallwch archebu tocynnau drwy ddilyn y ddolen ganlynol – hotb50th.com/tickets
Archebu eich Arhosiad
Mae gennym ddewis o ystafelloedd eang a chysurus yng Ngwesty’r Traethau gyda golygfeydd o’r môr neu’r mynydd. *Nid yw tocynnau ar gyfer y digwyddiad wedi’u cynnwys ym mhris eich archeb.
ARCHEBWCH NAWRPam Dewis Gwesty’r Traethau
Ar Arfordir Gogledd Cymru
Ystafelloedd
Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd braf yma yng Ngwesty’r Traethau sy’n cynnig digon o le, cysur a golygfeydd hyfryd o’r môr neu’r mynydd.
DARLLEN MWYBwyd Blasus
Mae Bistro a Bar y Promenâd yn gweini bwyd rhwng 12.30 a 9pm bob dydd ac mae’n lle perffaith i fwynhau pryd blasus, gyda dewis eang o fwydydd ar gael.
DARLLEN MWYYstafelloedd Hamdden
Yn ystod eich arhosiad gyda ni yma yng Ngwesty’r Traethau gallwch ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden am ddim, sy’n cynnwys pwll nofio cynnes, dan do.
DARLLEN MWY