Ystafelloedd Gwesty ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Dewch i aros i Westy’r Traethau lle gallwch fwynhau ystafelloedd moethus gyda golygfeydd godidog dros Draeth Barkby a Môr Iwerddon. Mae pob un o’n hystafelloedd wedi’u dylunio’n unigol gyda’r pwyslais ar sicrhau bod ein gwesteion yn gyfforddus ac yn cael noson dda o gwsg
Dewis o Ystafelloedd Gwesty ym Mhrestatyn, Cymru
Ni waeth pa ystafell y byddwch yn ei dewis, mae’r traeth eiliadau i ffwrdd yn unig. Gallwch ymlacio a mwynhau’r golygfeydd gwych o’r machlud, bwyta brecwast blasus, derbyn Wi-Fi am ddim a defnyddio ein pwll nofio a’n hystafelloedd hamdden. Boed ar wyliau gyda’r teulu, ymweliad busnes, gwyliau rhamantus neu benwythnos gyda’r genod, Gwesty’r Traethau yw’r lle delfrydol i gael amser gwych.
Gwesty sy’n croesawu Teuluoedd
Yma yng Ngwesty’r Traethau, rydym wrth ein bodd yn creu atgofion teuluol ar arfordir Gogledd Cymru. Mae croeso cynnes i deuluoedd yn ein gwesty ac rydym yn cynnig ystafelloedd teulu mawr sy’n berffaith ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod prysur ar draeth tywodlyd hyfryd Barkby. Mae digon o le yn ein hystafelloedd teulu i deuluoedd o bump ac maent yn cynnwys gwely maint brenin a dau wely sengl. Mae pob ystafell yn cynnwys teledu LCD a Wi-Fi am ddim i ddiddanu’r plant wrth i chi ymlacio yn eich ystafell.
Ymlaciwch yng Ngwesty’r Traethau
Yn ystod eich arhosiad gyda ni ym Mhrestatyn gallwch ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio dan do, sawna, ystafell stêm a champfa yn llawn offer. Mae ein pwll nofio ar agor bob dydd i westeion rhwng 6.45am ac 8pm. Gallwch fwynhau prydau blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd lle mae ein Prif Gogydd a’r tîm yn paratoi amrywiaeth o seigiau gan ddefnyddio cynhwysion ffres, lleol.
Dewch o hyd i'ch Ystafell Berffaith
The Beaches Hotel

Ystafelloedd Sengl
Darllen mwy
Ystafelloedd Dwbl Llai
Darllen mwy
Ystafelloedd Dwbl
Darllen mwy
Ystafelloedd Dwbl gyda Golygfeydd o'r Môr
Darllen mwy
Ystafelloedd Dwbl Arbennig
Darllen mwy
Ystafelloedd Dau Wely
Darllen mwy
Ystafelloedd Dau Wely gyda Golygfeydd o'r Môr
Darllen mwy
Ystafelloedd Teulu
Darllen mwy
Ystafelloedd Teulu Arbennig
Darllen mwy
Ystafelloedd i Dri
Darllen mwy
Ystafelloedd i Bedwar
Darllen mwy