Canolfan Hamdden
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Beth am ymlacio a mwynhau ein dewis o gyfleusterau hamdden yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn. Mae ein pwll nofio mawr dan do yn gyfleuster gwych. Mae’r ffenestri mawr ger y pwll yn gadael i olau naturiol lifo i’r ystafell, hyd yn oed yn ystod dyddiau llwyd y gaeaf. Mae’r defnydd o’r gampfa a’r sawna yn gyfyngedig i westeion dros 16 oed.
Cyfleusterau’r Ganolfan Hamdden i Westeion
Beth am brofi gwir foethusrwydd a gwneud y mwyaf o’n pwll nofio yn ystod eich arhosiad – a oes ffordd well o ymlacio cyn swper? Ac os bydd y tywydd yn troi’n wlyb ac yn ddiflas, gall y teulu cyfan ddefnyddio ein pwll nofio dan do.
Mae ein pwll nofio ar agor rhwng 6.45am ac 8pm
Bob dydd i westeion, ac nid oes angen archebu.
Mynediad i bobl nad ydynt yn Westeion:
Bob dydd Sul – dydd Iau rhwng 6.45am a 6.45pm
Mae ein pwll a chyfleusterau hamdden ar agor i bawb am sesiwn 1 awr o hyd am £6 y pen.
*Rhaid archebu ymlaen llaw!!