Lleoedd i fwyta ym Mhrestatyn
Yng Ngwesty’r Traethau, Gogledd Cymru
Yma yng Ngwesty 4 seren y Traethau, rydym yn ymfalchio mewn cynnig dewisiadau bwyd a lleoedd bwyta gwych ym Mhrestatyn ac rydym yn gwneud ein gorau i gynnig bwyd o’r ansawdd gorau i’n gwesteion ac ymwelwyr, ynghyd â gwasanaeth gwych mewn amgylchedd cyfforddus. Ni waeth a ydych chi am fwynhau swper rhamantus i ddau, pryd min nos gyda’r teulu ar ôl diwrnod allan prysur, cinio gyda’ch ffrindiau, brecwast neu ginio busnes, neu ein Te Prynhawn arbennig, mae gennym rhywbeth at ddant pawb, am brisiau rhesymol, yma yng Ngwesty’r Traethau. Bydd ein tîm staff ymroddedig a phrofiadol wrth law bob amser i wneud yn siŵr eich bod yn cael profiad gwych a chofiadwy, beth bynnag yw’r achlysur.
Bistro | Bar y Promenâd
Mae Bistro a Bar y Promenâd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar a dyma’r lleoliad perffaith ger traeth Barkby i fwynhau bwyd o’r safon uchaf, ynghyd â golygfeydd godidog ar draws Arfordir Gogledd Cymru a’r bryniau uwchlaw Prestatyn. Mae ein bwydlenni amrywiol, gan gynnwys ein bwydlen di-glwten blasus, yn newid gyda’r tymhorau ac yn cynnig dewis eang o gig, pysgod, dofednod, a seigiau llysieuol a fegan wedi’u paratoi gan ein Prif Gogydd Mark Dixon a’i dîm talentog, a’r cyfan o gynnyrch lleol, ffres. Rydym yn gweini bwyd rhwng 12.00pm (12.30pm ar ddydd Sul) a 9.00pm bob dydd. Mae ein Cinio Dydd Sul yn boblogaidd iawn gyda’n gwesteion a phobl leol ac mae ar gael drwy’r dydd.