Adolygiadau Gwesteion
Gwesty’r Traethau
Er nad ydym yn chwilio am ganmoliaeth, rydym bob amser wrth ein bodd pan fyddwn yn derbyn adborth cadarnhaol gan westeion sydd wedi aros yng Ngwesty’r Traethau ym Mhrestatyn ar arfordir Gogledd Cymru. Mae pob aelod o’n tîm yn teimlo’n angerddol dros roi’r gwasanaeth gorau i chi a diwallu eich holl anghenion. Mae eich adborth yn ein helpu ni i godi ein safonau hyd yn oed yn uwch, fel y gallwn barhau i gynnig profiad arbennig iawn i bob gwestai, yn ystod pob ymweliad.
Adolygiadau Gwesteion Diweddar ar Tripadvisor:
★★★★★
Noson Hyfryd
“Fe wnaethom ni aros nos Sul, roedd y staff yn gyfeillgar iawn, mae’r ystafelloedd yn olau, roedd gennym ystafell ar yr ochr yn wynebu’r traeth gyda golygfeydd i gyfeiriad Bae Colwyn. Pryd bwyd gwych, cwrs cyntaf yna prif gwrs o gig oen, ac roedd yn berffaith. Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn rhoi pob sylw i chi. Roedd y brecwast o ansawdd da ac unwaith yn rhagor roedd staff y shifft bore yn wych. Fe wnaethom ni adael ein ffenestr ar agor i wrando ar sŵn tonnau Môr Iwerddon ar lanw uchel, mae’r machlud yma gystal ag unrhyw le yn y byd. Byddwn yn dychwelyd.”
Mai 2022, Tripadvisor
★★★★★
Cinio Dydd Sul Hyfryd i’r Teulu
“Fe wnaethom ymweld â’r teulu ym Mhrestatyn ac roeddent wedi archebu Cinio dydd Sul yng Ngwesty’r Traethau. Mae mynedfa’r gwesty yn olau ac yn groesawgar ac fe wnaeth staff cyfeillgar y dderbynfa ein cyfeirio i’r bwyty. Roedd seddau cyfforddus yn y bwyty gyda golygfeydd gwych o’r môr. Roedd y gweinydd yn gyfeillgar ac yn groesawgar iawn, ac roedd yn tynnu coes ac yn cael llawer o hwyl gyda ni o’r dechrau. Gwnaethom archebu cinio Sul, cyrhaeddodd y bwyd yn gyflym: roedd yn boeth iawn ac roedd y cyfrannau yn hael. Cawsom drafferth i orffen ein bwyd ond roedd yn rhy dda i’w adael ar y plât. Yn anffodus, roeddem yn rhy llawn i archebu pwdin, ond byddwn yn siŵr o wneud hynny y tro nesaf. Roedd yn brofiad gwych a byddwn yn sicr yn dod yn ôl i fwynhau pryd blasus arall a rhagor o straeon y gweinydd, roedd yn ddoniol iawn ac yn ddyn hyfryd, rwy’n meddwl mai Jeff oedd ei enw, neu Jed yn ôl y gŵr, ond beth bynnag yw ei enw mae’n ddyn hyfryd ac roedd wedi ychwanegu at ein profiad, roeddem yn teimlo fel petaen ni wedi ei adnabod ers blynyddoedd.”
Ebrill 2022, Tripadvisor
★★★★★
Anhygoel
“Cawsom amser gwych yma, roedd y staff yn wych ac yn gymwynasgar, roedd y bwyd yn wych a’r ystafelloedd yn gyfforddus. Roedd Darran, goruchwylydd y bar, yn gymeriad a hanner, byddwn yn sicr yn dod yma eto. Mae’r olygfa yn hyfryd ac mae’r gwesty yn agos i’r dref. 10 allan o 10, yn enwedig am y croeso cynnes a’r agwedd.”
Ebrill 2022, Tripadvisor
★★★★★
Hollol Anhygoel
“Roedd yr ystafell teulu yn wych! Roedd gennym ystafell ar wahân, gyda drws, ar gyfer y plant (preifatrwydd!) Roedd popeth yn hwylus wrth i ni gyrraedd, yna aethom allan i fwynhau’r maes chwarae/arcêd/cael gwynt y môr/caffi. Roedd y pryd gyda’r nos yng ngwesty’r Traethau yn wych, yn rhesymol iawn o ran pris ac wedi’i weini gan y maître d’ Geoff. Roedd yn braf iawn gweld Geoff yn helpu cydweithiwr llai profiadol i roi gwasanaeth gwych a gonest a chadw pawb yn hapus heb unrhyw straen, er bod nifer o bobl wedi ‘cerdded i mewn’ i gymryd byrddau a oedd wedi’u cadw ar gyfer gwesteion. Cafodd ei werthfawrogi’n fawr iawn. Roedd y linguine yn flasus iawn, felly diolch chef! Bendigedig!! Brecwast – gwych!!!! Wyau Brenhinol … tost.. marmalêd a’r coffi yn y potiau bach tun sy’n gallu bod yn wael iawn – wel, ar yr achlysur hwn roedd yn dda iawn, fel caramel, gyda blas coffi o ansawdd da iawn – roedd y coffi yn arbennig! Mae’r bobl sy’n gweini ac yn gwneud y brecwast yn amlwg yn brofiadol iawn, iawn. Mae’n gyfnod anodd i’r diwydiant lletygarwch ar hyn o bryd – ond mae’r staff yma yn griw o bobl arbennig iawn (wedi siarad am wleidyddiaeth – hwyl a gonest) daliwch eich gafael arnynt reolwyr!. Mae’r pris yn deg a rhesymol. Byddem wedi hoffi gallu aros am ddwy noson – ond roedd braidd yn ddrud i ni. OND mae’r gwesty mewn lleoliad gwych, roedd yn teimlo fel gwyliau llawer hirach.“
Ebrill 2022, Tripadvisor
★★★★★
Gwesty Braf
“Gwnaethom aros am ddwy noson. Mae digonedd o le i barcio gyferbyn â’r gwesty. Roedd y dderbynfa yn groesawgar ac yn gyfeillgar. Roedd yr ystafell yn lân. Roeddem mewn ystafell fach gan mai dyna roeddem wedi talu amdano wrth archebu. Roedd yr ystafell yn lân, gwely braf, teledu android, tegell, sychwr gwallt, cyfleusterau gwneud te a choffi. Ystafell ymolchi hyfryd gyda chawod bwerus. Bar a bwyty braf yn edrych dros y traeth. Roedd y brecwast yn flasus iawn. Cawsom y brecwast llysieuol a oedd yn ffres ac yn flasus. Mae grawnfwydydd, sudd, te a choffi ar gael. Roedd y staff yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Mae pwll nofio, sawna a jacuzzi yma gan wneud yr arhosiad yn well fyth. Y bore yw’r amser gorau i ddefnyddio’r pwll nofio. Gwnaethom ni wir fwynhau ein arhosiad. Byddwn yn sicr yn argymell y gwesty.”
Ebrill 2022, Tripadvisor
★★★★★
Gwesty Hyfryd mewn Lleoliad Delfrydol
“Gwesty hyfryd ar lan y môr, staff cyfeillgar iawn a phopeth yn lân iawn ac yn broffesiynol! Dylid canmol y staff am wneud mor dda ddydd Sadwrn y Pasg! Cawsom ychydig o ddiodydd y tu allan ac roedd yn hyfryd, roedd yn edrych fel petai rhywfaint o waith allanol yn cael ei wneud yn barod ar gyfer yr haf, felly byddwn yn dychwelyd cyn bo hir, diolch i chi.“
Ebrill 2022, Tripadvisor
★★★★★
Staff Hyfryd a Chyfeillgar
“Rwyf wedi bod yn aros yma yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda fy ngwaith: gwesty glân iawn, bwyd gwych, staff hyfryd a chyfeillgar, byddwn yn argymell y gwesty i unrhyw un. Does dim byd o’i le yma. Hygyrch iawn ac yn mewn lleoliad canolog ar gyfer yr ardaloedd cyfagos.”
Mawrth 2022, Tripadvisor