Gweithgareddau i’r Teulu ym Mhrestatyn
Ger Gwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad perffaith ar gyfer Gwyliau i’r Teulu yng Ngogledd Cymru. Mae digonedd o ddewis o bethau i’r teulu cyfan eu gwneud ym Mhrestatyn ac ardal ehangach Gogledd Cymru.
Gweithgareddau i’r Teulu yng Ngogledd Cymru
Mae digonedd o hwyl i’w gael gyda’r teulu ar Draeth Barkby, traeth Baner Las, sydd ar garreg drws ein gwesty. Gallwch fynd am dro drwy warchodfa natur Twyni Tywod Gronant. Os nad yw’r tywydd yn ffafriol, gallwch dreulio’r diwrnod yn ein swît hamdden, neu ewch draw i Ganolfan Nova gerllaw i gael oriau o hwyl yn yr ardal chwarae meddal.
Beth am fynd i weld rai o greaduriad gwych y cefnfor yn SeaQuarium, Y Rhyl, mwynhau gêm hwyliog neu ‘gystadleuol’ o golff gwirion gyda’r teulu, 5 munud i ffwrdd ar droed o’r gwesty, neu fynd draw i Sw Caer am y dydd, un o’r mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig gyda dros 20,000 o anifeiliaid.
Rydym wedi llunio rhestr isod o’r pethau gwych y gallwch eu gwneud gyda’r plant yn ystod eich gwyliau gyda’r teulu yma yng Ngwesty’r Traethau – mae yma rhywbeth i ddiddanu’r plant bach a’r rhai hŷn hefyd.
Pam aros gyda ni
Ar ôl diwrnod allan llawn hwyl gyda’r teulu, cewch ddychwelyd i gynhesrwydd a moethusrwydd Gwesty’r Traethau. Ymlaciwch yn ein hystafelloedd i’r teulu, manteisiwch ar ein cyfleusterau hamdden gwych, a mwynhewch bryd gyda’r teulu ym Mar a Bistro’r Promenâd gyda bwyd gwych, gwasanaeth rhagorol a golygfeydd godidog o’r môr a’r mynydd.
Edrychwch ar ein Hawgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau i’r Teulu isod;
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**
Ein hawgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau i’r Teulu
Ger Gwesty’r Traethau

Traeth Barkby
darllen mwy
Ymweld â Gardd Bodnant
darllen mwy
Ysgol Farchogaeth Bridlewood
darllen mwy
Sw Caer
darllen mwy
Ardal chwarae i Blant
darllen mwy
Cestyll
darllen mwy
Golff Gwirion Prestatyn
darllen mwy
Rhaeadr Dyserth
darllen mwy
Twyni Tywod Gronant
darllen mwy
Marine Lake
darllen mwy
Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5
darllen mwy
Theatr y Pafiliwn
darllen mwy
Baddondy Rhufeinig
darllen mwy
Helmed Rufeinig
darllen mwy
SC2 Y Rhyl
darllen mwy
Traeth Talacre
darllen mwy
Parc Gwepra
darllen mwy
Rheilffordd yr Wyddfa
darllen mwy
Hwb Beiciau
darllen mwy