Ystafelloedd i Bedwar ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd i Bedwar yma yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys un gwely maint brenin a dau wely sengl ynghyd â phopeth fydd ei angen arnoch i fwynhau eich arhosiad. Gallwn ddarparu ar gyfer teuluoedd mwy neu grwpiau o bob maint. Ni waeth a ydych yn cynllunio aduniad teuluol, gwyliau golffio gyda’r hogiau neu benwythnos gyda’r genod, ein gwesty yn nhref Prestatyn yw’r dewis perffaith.
Archebwch ein Hystafelloedd i Bedwar ym Mhrestatyn
Mae ein hystafelloedd i bedwar yn addas ar gyfer 4 oedolyn ac yn cyfuno moethusrwydd a theimlad cartrefol gan sicrhau y byddwch yn ymlacio’n llwyr yn ystod eich arhosiad. Mae pob ystafell yn cynnwys clustogau cyfforddus, dillad gwely braf a dwfes meddal, felly byddwch yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Yn ychwanegol at hyn, mae pob ystafell yn cynnwys nwyddau ymolchi am ddim, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim, dŵr potel, bisgedi a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi. Fel ein gwestai, gallwch hefyd fanteisio ar gyfleusterau hamdden helaeth y gwesty sy’n cynnwys pwll nofio dan do, sawna, jacuzzi a champfa.
Darganfod Arfordir Gogledd Cymru
Mae ein gwesty mewn lleoliad gwych gyda Thraeth Barkby ar garreg y drws. Prestatyn yw’r lle perffaith i fwynhau gwyliau hapus a chofiadwy yng Ngogledd Cymru ac mae digonedd o atyniadau a gweithgareddau o fewn cyrraedd hwylus i’r gwesty ac ardaloedd hardd cyfagos Gogledd Cymru. Gyda chynifer o ddewisiadau, mae rhywbeth yma at ddant pawb.
Bydd taith ar hyd Ffordd y Gogledd yn eich tywys heibio traethau euraid, dyffrynnoedd afonydd coediog, cestyll canoloesol a threfi marchnad hardd, heb sôn am ardal o harddwch naturiol eithriadol, trefi gwledig prydferth ac arfordir godidog. Bydd ein tîm cyfeillgar yn y dderbynfa bob amser yn barod i’ch helpu a chynnig awgrymiadau a chyngor ar leoedd i ymweld â nhw os ydych am drefnu diwrnod llawn antur yn ystod eich arhosiad.
Archebwch un o’n hystafelloedd i bedwar heddiw a manteisiwch ar un o’n cynigion arbennig sy’n cynnig gwerth gwych am arian yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn.