Dewch ar wyliau gwych i Westy’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru. Mae ein lleoliad gwych ar flaen y traeth yn golygu y bydd gennych ddigonedd o ddewis o bethau i’w gwneud a’u gweld, o anturiaethau i hwyl ar y traeth, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Gwesty’r Traethau yw’r dewis perffaith ar gyfer eich gwyliau nesaf, ni waeth beth yw’r tymor. Yn y gwanwyn a’r haf gallwch fwynhau bwyta yn yr awyr agored ar ein teras hyfryd y tu allan i Far a Bistro’r Promenâd a gwylio’r machlud. Mae’r hydref a’r gaeaf yn amseroedd gwych o’r flwyddyn i fwynhau golygfeydd hardd dros Fôr Iwerddon a Bryniau Prestatyn.
Gwyliau Tymhorol ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru
Oes unman gwell na Gwesty’r Traethau? Bydd ein lleoliad glan-môr ar Draeth Barkby, traeth Baner Las, ger Gwarchodfa Natur Twyni Tywod Gronant yn dod â chi at eich coed. Teimlwch y tywod o dan eich traed, y moresg yn eich dwylo ac anadlwch awyr hallt y môr. Mae Traeth Barkby yn draeth baner las ac yn un o draethau glanaf y Deyrnas Unedig. Mae digonedd o bethau difyr i’w gweld a’u gwneud yn nhref hardd Prestatyn ond rydym mewn lleoliad cyfleus 30 milltir yn unig i ffwrdd o ddinas hanesyddol Caer, Ynys Môn a’i thraethau euraidd a môr glân a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Ymweld â Chestyll Gogledd Cymru
Mae ardal Gogledd Cymru yn adnabyddus am ei chestyll. Roedd tua 600 o gestyll yng Nghymru ar un adeg ac mae dros 100 yn dal i sefyll hyd heddiw, naill ai yn adfeilion neu wedi’u hadfer i’w harddwch naturiol, ac mae digonedd o gaerau canoloesol trawiadol i’w gweld yn yr ardal. Yn ystod eich arhosiad yng Ngwesty’r Traethau, beth am ddarganfod muriau, rhagfuriau, tyredau a dwnsiynau’r cestyll cyfagos a chael cipolwg ar fywyd yn yr oesoedd canol a dysgu am y brwydrau, y brenhinwyr a’r milwyr a fu’n amddiffyn y cestyll. Cestyll Conwy, Caernarfon, Rhuddlan, Cricieth a Gwrych yw rhai o’r cofebau canoloesol mwyaf cyflawn o’u cyfnod ac maent yn safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
Does dim gwahaniaeth pryd yn ystod pa dymor y byddwch yn ymweld â ni, bydd ein lleoliad glan-môr, gwasanaeth rhagorol, a llety moethus yn aros amdanoch. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Westy’r Traethau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn!