Ystafelloedd Dwbl Arbennig gyda Golygfeydd o’r Môr
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Beth am eich sbwylio’ch hun yn un o’n Hystafelloedd Dwbl Arbennig gyda Golygfa godidog o’r Môr. Yn edrych allan ar Draeth Barkby a Môr Iwerddon, gallwch ymlacio yn eich ystafell a gwylio’r golygfeydd arbennig o’r haul yn machlud yn ystod ein arhosiad yng Ngwesty’r Traethau.
Archebwch ein Hystafelloedd Dwbl Arbennig gyda Golygfeydd o’r Môr
Mae ein Hystafelloedd Dwbl Arbennig gyda Golygfeydd o’r Môr yn cynnwys holl gysuron a chyfleusterau ein Hystafelloedd Dwbl gyda Golygfeydd o’r Môr ond gyda mwy o le, desg, teledu clyfar cyfoes a golygfa eang o’r môr. Gyda’n dillad gwely braf a’n matresi cyfforddus rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg ac ymlacio’n braf. Mae ein hystafelloedd arbennig yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite gyda nwyddau ymolchi am ddim, Wi-Fi am ddim, a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi.
Cyfleusterau Hamdden a Phwll Nofio
Gall pob un o’n gwesteion ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden lle gallwch nofio yn ein pwll nofio mawr, dan do ac ymlacio yn ein hystafelloedd sawna a stêm.
Pethau i’w gwneud ym Mhrestatyn
Mae Prestatyn yn fwy na thref glan-môr yn unig, mae’n ganolfan siopa brysur ac yn borth i’r ardaloedd cefn gwlad hefyd. Mae’r dref yn llawn treftadaeth ddiddorol ac yn gartref i olion hen faddondy Rhufeinig sydd bron i 2,000 o flynyddoedd oed ac yn gyrchfan arbennig i gerddwyr. Prestatyn yw man cychwyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n dilyn ffos a adeiladwyd gan y Brenin Offa o Fersia yn yr wythfed ganrif ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gallwch ddilyn rhan o’r llwybr drwy’r dref ar hyd y Stryd Fawr. Beth am gerdded hyd at y Gysgodfan ar y bryn neu fynd yn eich blaen nes i chi gyrraedd Cas-gwent – gewch chi ddewis!
Bwyta gyda ni
Yn ystod eich arhosiad, beth am ymuno gyda ni i fwynhau’r gorau o fwyd Cymreig ac Ewropeaidd ym Mar a Bistro’r Promenâd. Gyda golygfeydd godidog o Fryniau Prestatyn dyma’r lleoliad delfrydol i fwynhau pryd rhamantus i ddau. Mae’r holl seigiau yn cael eu paratoi’n ffres yn ein cegin, felly siaradwch gyda’ch gweinydd os oes gennych anghenion deietegol penodol neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n seigiau. Mae ein bwydlenni wedi cael eu hysbrydoli gan gynhwysion lleol, ffres felly os ydych yn chwilio am fwyd blasus mewn awyrgylch anffurfiol a braf, mae gennym rywbeth at ddant pawb ym Mar a Bistro’r Promenâd.