Ystafelloedd Sengl ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Boed ar wyliau neu’n ymweld am resymau busnes, mae ein Hystafelloedd Sengl yn Ngwesty’r Traethau yn cynnwys popeth mae ei angen arnoch i gael arhosiad braf a chyfforddus. Mae ein Hystafelloedd Sengl yn boblogaidd gyda theithwyr busnes ac yn ddelfrydol ar ôl treulio diwrnod hir ar y ffordd neu mewn cyfarfodydd. Hefyd, mae ein gwasanaeth Wi-Fi am ddim yn golygu y gallwch weithio o’ch ystafell.
Archebwch ein Hystafelloedd Sengl
Mae ein Hystafelloedd Sengl eang wedi’u haddurno mewn lliwiau a deunyddiau cynnes ac mae ganddynt olygfeydd bendigedig o gefn gwlad Cymru. Mae pob un o’n Hystafelloedd Sengl yn cynnwys gwely dwbl bach, dillad gwely o safon a matresi cyfforddus i sicrhau y byddwch yn cael noson dda o gwsg. Yn ogystal â hyn, mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys teledu clyfar, Wi-Fi am ddim, sychwr gwallt, nwyddau ymolchi am ddim a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi a dŵr potel.
Ymlaciwch yn ein Cyfleusterau Hamdden
Ar ôl diwrnod hir yn teithio, gweithio neu’n crwydro arfordir Gogledd Cymru, beth am ymlacio yn ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio dan do, sawna, ystafell stêm a champfa.
Bwyd Bendigedig ym Mhrestatyn
Yn ystod eich arhosiad, beth am flasu’r gorau o’n bwydlenni bwyd a diod yng Ngwesty’r Traethau. Mae ein holl fwydlenni wedi’u hysbrydoli gan gynhwysion lleol ac maent yn cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbenigol. Galwch draw ym Mar a Bistro’r Promenâd i fwynhau seigiau blasus a gwasanaeth gwych a chyfeillgar gan ein staff.