Gwesty addas i Deuluoedd ym Mhrestatyn
Dewiswch Westy’r Traethau yng Ngogledd Cymru
Ydych chi’n chwilio am wyliau i’r teulu yng Ngogledd Cymru? Gwesty’r Traethau ym Mhrestatyn yw’r dewis perffaith ar gyfer eich gwyliau gyda’r teulu cyfan eleni. Mae Traeth Barkby, traeth baner las hyfryd, ar garreg ein drws felly byddwch chi a’r teulu yn siŵr o fwynhau gwyliau llawn hwyl. Gallwch adeiladu cestyll tywod ar draeth euraidd Barkby, cael hwyl yn ein pwll nofio dan do, bwyta pryd blasus gyda’r teulu ar ôl diwrnod allan, neu wylio’r machlud dros Fôr Iwerddon: byddwch yn cael digonedd o awyr iach y môr ac yn gadael Gwesty’r Traethau gyda chyfoeth o atgofion gwych.
Ymlaciwch yn ein Hystafelloedd Mawr i’r Teulu
Mae gennym ddewis o Ystafelloedd Teulu ar eich cyfer yma yng Ngwesty’r Traethau, gan gynnwys ein hystafelloedd mwy sy’n cynnig digonedd o le a golygfeydd godidog o’r môr neu’r mynyddoedd.
Mae pob un o’n hystafelloedd teulu ym Mhrestatyn wedi’u dodrefnu i safon uchel ac yn lle delfrydol i ymlacio ar ôl treulio diwrnod yn cael hwyl ar Draeth Barkby neu’n crwydro o amgylch tref Prestatyn. Mae gennym rywbeth sy’n addas i deuluoedd o bob maint am bris cystadleuol.
Bwyd Bendigedig i’r Teulu ym Mhrestatyn
Mae Brecwast Cymreig blasus a maethlon yn Swît y Twyni wedi’i gynnwys yn ein pecynnau gwyliau i’r teulu ac yn ddechrau perffaith i’ch diwrnod.
Mae Bar a Bistro’r Promenâd ar ei newydd wedd yn gweini bwyd rhwng 12.30 a 9pm bob dydd ac yn lle delfrydol i fwynhau pryd gyda’r teulu, gyda digonedd o ddewisiadau blasus. Mwynhewch bryd gyda’r teulu mewn awyrgylch gynnes, braf gyda golygfeydd o Fryniau Prestatyn neu Fôr Iwerddon.
Hwyl i’r Teulu ym Mhrestatyn
Mae digonedd o ddewis o bethau i’w gwneud gyda’r teulu cyfan ym Mhrestatyn ac ardaloedd cyfagos Gogledd Cymru. Gallwch dreulio’r diwrnod gyda phwced a rhaw ar Draeth Barkby wrth garreg ein drws. Neu beth am gerdded i’r cwrs golff gwirion a’r maes chwarae antur yng Nghanolfan Nova gerllaw a Thwyni Tywod anhygoel Gronant. Ac wrth gwrs, mae taith i Sw Caer yn ddiwrnod gwych i’r teulu. Mae ein tudalen gweithgareddau i’r teulu yn cynnwys rhestr lawn o bethau gwych i’w gweld a’u gwneud yn ystod eich arhosiad gyda ni ym Mhrestatyn.
Os na fydd y tywydd yn ffafriol, gallwch fynd draw i’n canolfan hamdden a defnyddio ein pwll nofio dan do ynghyd â’r sawna a’r gampfa.
Cymerwch olwg ar ein Gwyliau i’r Teulu isod sy’n cynnig gwerth gwych am arian ac edrychwch ymlaen at ddod ar eich gwyliau yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn, eleni.