Ein Swît Mis Mêl
yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Ar ôl cyffro ac emosiwn diwrnod eich priodas, mae’r amser wedi dod i’r ddau ohonoch rannu eich amser arbennig gyda’ch gilydd, wrth i chi fwynhau eich mis mêl yng Ngwesty’r Traethau.
Mae Swît Mis Mêl Gwesty’r Traethau yn cynnig profiad moethus iawn i’r rheini sy’n ymweld â ni i ddathlu achlysur arbennig. P’un a ydych newydd briodi ac yn treulio eich noson gyntaf gyda’ch gilydd, yn barti priodasol sy’n paratoi ar gyfer y diwrnod mawr neu’n griw o ffrindiau sy’n chwilio am ystafell foethus ar arfordir Gogledd Cymru, mae gan Swît Mis Mêl Gwesty’r Traethau bopeth ar eich cyfer.
Mae’r Swît Mis Mêl hardd yn cynnwys gwely 4-postyn, lle gallwch ddeffro mewn gwely moethus i fwynhau golygfeydd gwych o’r môr a gwylio’r wawr yn torri gyda’ch gilydd ar fore cyntaf eich bywyd priodasol.
Mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys wi-fi am ddim, ffonau, nwyddau ymolchi moethus, cyfleusterau gwneud te a choffi a sychwyr gwallt. Mae gwasanaeth ystafell ar gael hefyd.