Os ydych yn chwilio am wyliau, mae gennym ddewis eang o becynnau a chynigion ar gael sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau dyddiau o seibiant yn y gwanwyn! Ni waeth a ydych yn chwilio am wyliau byr yng nghanol yr wythnos neu dros gyfnod y penwythnos gyda’ch cymar, gwyliau gyda’r teulu neu eich ffrindiau gorau, yna mae rhywbeth ar eich cyfer yma yng Ngwesty’r Traethau.
Ystafelloedd moethus
Gyda golygfeydd godidog ar draws Traeth Barkby a Môr Iwerddon, mae ein hystafelloedd moethus yn gartrefol ac yn cynnig pob cysur. Mae gennym ddewis eang o ystafelloedd gan gynnwys ystafelloedd safonol, ystafelloedd moethus iawn, ystafelloedd teulu, ystafelloedd gyda golygfeydd o’r môr neu ystafelloedd arbennig gyda golygfa o’r mynyddoedd, ac mae pob un yn cynnwys popeth fydd ei angen arnoch i gael gwyliau braf dros gyfnod y gwanwyn: gwelyau a chlustogau cyfforddus, dillad gwely gwyn, braf, a dwfe meddal, cynnes a fydd yn sicrhau eich bod yn cael noson dda o gwsg. Ymlaciwch a mwynhewch olygfeydd o’r haul yn machlud, brecwast iach, WIFI am ddim a phob math o gyfleusterau modern.
Ymlaciwch yn ein Canolfan Hamdden
Mae ein pwll nofio dan do, mawr a modern, sawna ac ystafell stêm ar gael i westeion sy’n dod yma i fwynhau gwyliau yn y gwanwyn. Mae’r gampfa yn cynnwys wal â drych ar ei hyd, ynghyd â pheiriant rhedeg i gadw’n heini yn ystod eich arhosiad. Mae defnydd o’r gampfa, ystafell stêm a’r sawna yn gyfyngedig i bobl dros 16 oed.
Canslo hyblyg, am ddim
Yma yng Ngwesty’r Traethau rydym eisiau i’n gwesteion gael profiad didrafferth o’r cyfnod pan fyddant yn archebu ystafell i’r diwrnod y byddant yn cyrraedd y gwesty. Gallwch ganslo pob ystafell a phecyn gwyliau am ddim a gwneud newidiadau i’ch archeb hyd at 48 awr cyn dyddiad eich arhosiad.
Archebwch eich gwyliau ar gyfer y gwanwyn yng Ngwesty’r Traethau a mwynhewch ostyngiad o hyd at 15% pan fyddwch yn archebu’n uniongyrchol.
Gwyliau yn y Gwanwyn
Manteisiwch ar ein bargeinion gwerth gwych y Gwanwyn hwn yng Ngwesty The Beaches. Ymlaciwch gyda golygfeydd godidog a mynediad uniongyrchol i'r traeth.
Archebwch nawr