Ystafelloedd Dwbl ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd Dwbl yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys popeth mae ei angen arnoch i gael arhosiad braf a chyfforddus, beth bynnag yw eich gofynion.
Dewch i aros yn ein Hystafelloedd Dwbl
Mae pob un o’n Hystafelloedd Dwbl wedi cael eu haddurno mewn lliwiau a deunyddiau cyfoes ac maent yn berffaith ar gyfer cyplau sydd am ymlacio ar eu gwyliau. Gyda’u gwelyau cyfforddus â’u dillad gwely gwyn braf rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Yn ogystal â hyn, mae pob Ystafell Ddwbl yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite gyda nwyddau ymolchi am ddim, teledu LCD, Wi-Fi am ddim, dŵr potel, bisgedi a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi.
Darganfod Prestatyn a Gogledd Cymru
Mae Gwesty’r Traethau yn agos iawn at sawl atyniad lleol ac mae digon o bethau i’w gweld a’u gwneud pan fyddwch yn ymweld â’n gwesty gwych. Gall gwesteion ddewis o’r traethau bendigedig, cestyll a safleoedd hanesyddol a llawer o weithgareddau sydd oll o fewn cyrraedd hwylus i’r gwesty. Os ydych yn chwilio am syniadau wrth gynllunio diwrnod allan yn ystod eich arhosiad yng Ngwesty’r Traethau, bydd tîm y dderbynfa yn hapus iawn i awgrymu lleoedd da i ymweld â nhw.
Ymlacio
Ar ôl mwynhau diwrnod allan ym Mhrestatyn a’r ardaloedd cyfagos, beth am fanteisio ar gyfleusterau hamdden helaeth ein gwesty. Gall pob un o’n gwesteion ddefnyddio’r pwll nofio dan do, sawna, ystafell stêm a’r gampfa.
Bwyd Bendigedig ym Mhrestatyn
Yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau, beth am flasu’r gorau o’n dewis o fwydlenni. Gall gwesteion fwynhau pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a chael eu swyno gan y golygfeydd godidog o’r machlud ar draws Fôr Iwerddon a Thraeth Barkby. Mae ein bwydlenni wedi cael eu hysbrydoli gan gynhwysion lleol ac maent yn cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbenigol sy’n gallu darparu ar gyfer anghenion deietegol o bob math.