Ydych chi’n chwilio am leoliad arbennig i gynnal priodas ar yr arfordir yn y Deyrnas Unedig? Gyda golygfeydd dros Fôr Iwerddon, twyni tywod trawiadol, a thraethau a bryniau Prestatyn yn gefnlen i’r cyfan, Gwesty’r Traethau yng Ngogledd Cymru yw’r lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod priodas ar yr arfordir.
Lleoliad Priodasol ger y Traeth yng Ngogledd Cymru
Rydym wrth ein bodd yn croesawu cyplau, eu ffrindiau a’u teuluoedd ar gyfer Seremonïau Sifil, derbyniadau priodas a seremonïau ailwneud addunedau priodas yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn. Rydym ar arfordir Gogledd Cymru yn nhref hardd Prestatyn, 30 munud i ffwrdd o Gaer, 1 awr o Lerpwl, 1.5 awr o Fanceinion a 2.5 awr o Lundain. Yma yng Ngwesty’r Traethau gallwn gynnig dewis o bedwar Swît Priodasol hardd sydd wedi’u trwyddedu’n llawn.
Rydym wedi ymrwymo i wneud eich diwrnod priodas mor arbennig â chi, gan olygu y gallwch chi a’ch gwesteion ymlacio. Rydym yn cynnig pecynnau wedi’u teilwra (gan gynnwys DJ ac addurniadau) a dewisiadau personol sy’n addas i’ch cyllideb a’ch anghenion personol.
Bydd ein cydlynydd priodasau ymroddedig a phrofiadol, Elizabeth, wrth eich ochr bob cam o’r ffordd, o’r cyfarfod cyntaf yn y gwesty i’r diwrnod mawr. Mae Elizabeth yn chef hyfforddedig ac yn bobydd o fri, ac mae ganddi lygad gwych am fanylion, yn enwedig wrth wneud y trefniadau bwyd. Mae hi’n creu teimlad braf a hamddenol yn ystod yr holl broses gan sicrhau diwrnod gwirioneddol hudolus yng Ngwesty’r Traethau.
Ein Swît Priodasol
Rydym yn argymell Swît y Traethau, lle gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 200 o westeion. Mae ffenestri yn amgylchynu’r Swît felly mae golau naturiol yn llifo i’r ystafell gyfan drwy’r dydd. Mae drysau gwydr yn agor allan i roi golygfa arbennig o’r traeth a’r ardal eistedd breifat. Bydd eich teulu a ffrindiau yn mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau ar hyd arfordir Gogledd Cymru o’n hardal eistedd breifat.
Diwrnod Priodas wedi’i drefnu ar eich gyfer chi
- Gall ein Swît Priodasol ddarparu ar gyfer hyd at 200 o westeion
- Dewis o Swîts Mis Mêl gyda golygfeydd gwych o’r môr
- Dewis helaeth o seigiau traddodiadol ac arbenigol ar ein pecynnau bwyd a diod. Mae Gwesty’r Traethau yn falch o gefnogi cyflenwyr lleol ac mae’n gwneud pob ymdrech i ddefnyddio cynhwysion o Gymru. Gallwch gael brecwast priodasol ffurfiol wrth y bwrdd, neu ddewis bwffe mwy anffurfiol wrth wylio’r haul yn machlud.
- Trwydded lawn
- 79 Ystafell wely
- Cyfraddau arbennig i Deuluoedd a Ffrindiau, Gwely a Brecwast a pharcio am ddim, Wi-Fi a defnydd o bwll nofio a chyfleusterau hamdden
Bydd Gwesteion Priodas ym mwynhau’r darn hwn o’r arfordir yng Ngogledd Cymru, y pwll nofio, a’r ystafelloedd braf. Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig lleoliad priodas sy’n addas i deuluoedd ac rydym wrth ein bodd yn croesawu plant i’n gwesty. Ers i Covid-19 ddod yn rhan o’n bywydau, mae Gwesty’r Traethau wedi cymryd camau diogelwch i sicrhau bod ein gwesteion yn cael arhosiad diogel yn ein gwesty.
Rydym yn cynnig Pecynnau Priodas Popeth wedi’i Gynnwys gyda chyfraddau gostyngedig rhwng dydd Sul a dydd Iau yn ystod misoedd y gaeaf. Lawrlwythwch ein Llawlyfr Priodasau isod, neu os hoffech drefnu apwyntiad neu wneud ymholiad am briodas ffoniwch 01745 853072 neu anfonwch e-bost at aelod o’n tîm info@thebeacheshotel.com
Priodasau
Yng Ngwesty’r Traethau

Ein Llawlyfr Priodasau
Yng Ngwesty’r Traethau
Cliciwch yma i weld ein llawlyfr priodasau newydd ar gyfer 2022, 2023 a 2024. Mae gennym ddewis eang o becynnau priodas ar gael yng Ngwesty’r Traethau
LAWRLWYTHWCH Y LLAWLYFR
Pecynnau Priodas
Yng Ngwesty’r Traethau
Yma yng Ngwesty’r Traethau mae gennym becynnau priodas sy’n addas i bawb, gan gynnwys dewisiadau wedi’u teilwra ar gyfer eich cyllideb a’ch anghenion personol.
DARLLEN MWY
Ymholiad Priodasau
Yng Ngwesty’r Traethau
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau neu ffoniwch 01745853072.
GWNEUD YMHOLIAD NAWR