Pethau i’w Gweld a’u Gwneud
Ger Gwesty’r Traethau, Prestatyn
Mae Gwesty’r Traethau ar Draeth Barkby ger Gwarchodfa Natur Twyni Tywod Gronant, tua 25 munud i ffwrdd ar droed o ganol tref Prestatyn, neu 5 munud mewn car. Mae llawer o atyniadau a phethau difyr i’w gweld a’u gwneud yn nhref Prestatyn yn ystod eich arhosiad gyda ni.
Digonedd o bethau i’w Gwneud ym Mhrestatyn
Mae digonedd o bethau i’w gwneud a’u gweld ym Mhrestatyn ac ardal Gogledd Cymru. Ewch i’n tudalennau atyniadau lleol a gweithgareddau i’r teulu i gael syniadau a fydd yn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch gwyliau. Gallwch dreulio’r diwrnod ar garreg ein drws ar Draeth Barkby a theimlo’r tywod o dan eich traed, crwydro ar hyd y twyni tywod, anadlu aer ffres y môr, darganfod safleoedd hanesyddol, mwynhau pob math o weithgareddau dan do ac yn yr awyr agored sy’n addas o bob oedran, crwydro’r strydoedd a mwynhau harddwch tref Prestatyn, chwarae golff ar y cyrsiau golff gwych lleol ac edmygu golygfeydd godidog, neu fynd am dro ar hyd y traeth i fwynhau’r machlud cyn noswylio.
P’un a ydych yn ymweld â Phrestatyn gyda’r teulu, ar eich gwyliau gyda’r genod, yn mwynhau penwythnos rhamantus gyda’ch cymar, neu’n teithio ar eich pen eich hun ac yn chwilio am wyliau yn llawn gweithgareddau, mae digonedd o bethau yma i bawb eu gweld a’u gwneud.
Darganfod Gogledd Cymru
Mae ardal Prestatyn nid yn unig yn cynnig llawer o atyniadau, mae hefyd mewn lleoliad canolog a chyfleus tua 30 milltir i ffwrdd o ddinas hanesyddol Caer, Ynys Môn a’i thraethau euraidd ac ardal o harddwch naturiol Eryri.
P’un a ydych yn chwilio am wyliau yn llawn gweithgareddau, hwyl, teithiau cerdded ar y traeth, antur, golygfeydd, hanes, bywyd gwyllt a llawer mwy, yna Gwesty’r Traethau, Prestatyn yng Ngogledd Cymru yw’r lle i chi!
Ein gwesty yw’r lleoliad delfrydol i fwynhau’r holl bethau gwych i’w gwneud a’u gweld ym Mhrestatyn a thu hwnt.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**