Talebau Anrheg
Gwesty’r Traethau
Ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig i aelod o’r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr? Mae tocyn anrheg Gwesty’r Traethau yn syniad gwych ar gyfer pob achlysur gyda rhywbeth at ddant pawb.
Rhowch anrheg arbennig yng Ngwesty’r Traethau
Beth am gynnig anrheg arbennig i rywun yng Ngwesty’r Traethau lle gellir defnyddio ein tocynnau anrheg i dalu am holl wasanaethau’r gwesty – gallwch ddewis swper yn ein bwyty, diodydd yn y bar a llety dros nos. Ar ôl i chi ddewis, ffoniwch ein tîm ar 01745 853072 neu e-bostiwch info@thebeacheshotel.com a gallwn wneud yr holl drefniadau angenrheidiol. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.
Pan fyddwch yn prynu un o’n tocynnau anrheg ar-lein bydd y tocyn yn cael ei anfon yn syth at y cyfeiriad e-bost rydych chi wedi’i roi.
Mae Gwesty’r Traethau ym Mhrestatyn yn mwynhau golygfeydd gwych dros Fôr Iwerddon, yn ogystal â bryniau Prestatyn. Gyda Thraeth Barkby ar garreg ein drws dyma’r lleoliad delfrydol i ymlacio yn yr haul gyda’r tywod rhwng bysedd eich traed, mynd am dro ar hyd y Promenâd, mwynhau hufen iâ, adeiladu cestyll tywod, neu edmygu’r golygfeydd godidog ar hyd milltiroedd o arfordir. Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig ystafelloedd eang, dewsiadau bwyd blasus, a’r cyfan o fewn tafliad carreg at nifer o weithgareddau ac atyniadau y gallwch eu mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni ar arfordir Gogledd Cymru.
Beth bynnag yw eich diddordebau, tocyn anrheg Gwesty’r Traethau yw’r anrheg perffaith ar gyfer pob achlysur, mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Anrheg gwych
Yng Ngwesty’r Traethau

Tocyn anrheg ariannol
Beth am roi tocyn anrheg ariannol i rywun arbennig a chynnig profiad unigryw yng Ngwesty’r Traethau. Gellir gwario’r tocynnau ein ddewis swper yn ein bwyty, , diodydd yn y bar neu lety dros nos.
PRYNWCH NAWR