Ystafelloedd i Dri ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd i Dri yma yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys tri gwely sengl a phopeth sydd ei angen arnoch i fwynhau eich arhosiad. Mae’r ystafelloedd hyn yn ddewis delfrydol ar gyfer penwythnos i ffwrdd gyda’r genod, neu’r hogiau, taith meithrin ysbryd tîm gyda’ch cydweithwyr neu wyliau golff gyda’ch cyd-chwaraewyr golff.
Archebwch ein Hystafelloedd eang i Dri
Mae pob un o’n Hystafelloedd i Dri yn cyfuno moethusrwydd a theimlad cartrefol, braf ar gyfer eich arhosiad ger y môr. Gallwch fwynhau golygfeydd braf o fryniau Clwyd o nifer o’r ystafelloedd i dri. Mae digon o le ynddynt ar gyfer tri oedolyn, ac maent wedi’u haddurno mewn lliwiau cynnes, croesawgar. Mae pob ystafell yn cynnwys teledu clyfar a Wi-Fi cyflym iawn am ddim felly gallwch gysylltu â’r we, ffrydio’r ffilmiau diweddaraf neu wylio eich hoff gyfres deledu – hynny yw, ar ôl i chi flino ar y golygfeydd godidog o’n teras allanol neu Draeth Barkby ar garreg ein drws.
Byddwch yn siŵr o fwynhau noson dda o gwsg diolch i’n matresi moethus, dwfes meddal a sŵn y tonnau.
Gwyliau i’r Genod neu’r Hogiau yng Ngwesty’r Traethau
Mae trefnu gwyliau gyda’r genod neu’r hogiau yn ffordd berffaith o dreulio amser gyda’ch ffrindiau a mwynhau noson o chwerthin, bwyd a diod gwych, golygfeydd godidog, a gwasanaeth rhagorol.
Gallech fwynhau Te Prynhawn blasus yn Swît Bryn sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, mwynhau pryd gyda’r nos gyda’r hogiau neu’r genod ym Mar a Bistro’r Promenâd, ymlacio wrth fwynhau peint neu un o’n coctêls adnabyddus ar y teras gwych ychydig gamau i ffwrdd o dywod euraid Traeth Barkby, chwarae rownd o golff yng Nghlwb Golff Pencampwriaeth Prestatyn gerllaw, mwynhau prynhawn hamddenol yn ein pwll nofio dan do ac ymlacio yn ein jacuzzi neu dreulio’r prynhawn ar Draeth Barkby.
Ar ôl diwrnod prysur, gallwch ddychwelyd i’n hystafelloedd i dri i fwynhau noson dda o gwsg mewn awyrgylch cartrefol a chynnes. Os ydych yn chwilio am lety ar gyfer gwyliau byr gyda’r hogiau neu’r genod, neu hyd yn oed eich cydweithwyr, ein hystafelloedd i dri yw’r ateb!
Crwydro Prestatyn a Gogledd Cymru
Gyda chynifer o bethau i’w gwneud yma yn y gwesty, ynghyd â mynediad uniongyrchol i draeth baner las Barkby, byddai’n hawdd ildio i’r temtasiwn i aros yn yr unfan. Ond os ydych awydd mynd allan i grwydro, mae Gogledd Cymru yn adnabyddus fel lleoliad rhai o weithgareddau ac atyniadau awyr agored gorau’r byd. Bydd tîm cyfeillgar a phrofiadol y dderbynfa bob amser yn barod i’ch helpu a chynnig awgrymiadau i drefnu diwrnod llawn gweithgareddau yn ystod eich arhosiad yma yng Ngwesty’r Traethau.
Archebwch un o’n hystafelloedd i dri heddiw a manteisiwch ar ein cynigion arbennig sy’n cynnig gwerth gwych am arian yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn.