Ystafelloedd Dau Wely ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd Dau Wely yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys dau wely sengl a phopeth fydd ei angen arnoch i fwynhau arhosiad cyfforddus, ni waeth beth yw eich gofynion.
Archebwch ein Hystafelleodd Dau Wely
Mae pob un o’n Hystafelloedd Dau Wely yn cynnig croeso cysurus a chartrefol. Mae’r gwelyau braf yn cynnwys dillad gwely gwyn, matresi moethus a dwfes meddal a chlustogau cyfforddus, felly rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Yn ogystal â hyn, mae ein Hystafelloedd Dau Wely gyda Golygfeydd o’r Mynyddoedd yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite gyda nwyddau ymolchi am ddim, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi.
Ymlacio yng Ngwesty’r Traethau
Fel ein gwestai, mae croeso i chi ddefnyddio cyfleusterau hamdden helaeth ein gwesty. Gall ein holl westeion ddefnyddio’r pwll nofio dan do, sawna, ystafell stêm a champfa. Yn ystod eich arhosiad, gallwch hefyd brofi’r gorau o’n dewis o fwydlenni. Gallwch fwynhau pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd lle ceir golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru a Thraeth Barkby. Mae ein holl fwydlenni wedi cael eu hysbrydoli gan gynhwysion lleol ac maent yn cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbenigol sy’n gallu bodloni eich holl anghenion deietegol.
Darganfod Gogledd Cymru
Mae Gogledd Cymru yn adnabyddus am gynnig rhai o’r gweithgareddau antur awyr agored gorau yn y byd, heb sôn am y traethau gwych, y mynyddoedd hardd a’r diwylliant a’r treftadaeth hynafol a diddorol. Mae digonedd o hyn yng Ngogledd Cymru a llawer mwy. Gall ein tîm cyfeillgar yn y dderbynfa gynnig awgrymiadau am leoedd i ymweld â nhw os oes angen cyngor arnoch wrth gynllunio diwrnod allan yn ystod eich arhosiad yma yng Ngwesty’r Traethau.