Gwestai ger Llandudno
Arhoswch yng Ngwesty’r Traethau
Mae Llandudno ychydig dros 20 milltir / 45 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau felly rydym yn lleoliad delfrydol os ydych yn chwilio am Westai ger Llandudno. Mae’n hawdd cyrraedd Llandudno mewn car ar hyd yr A55, neu ar drên neu fws o Ganol Tref Prestatyn.
Ymweld â Llandudno
Mae Llandudno yn gartref i bier hiraf Cymru ac mae’n adnabyddus am yr arcêds siopa Fictorianaidd y tu ôl i’r promenâd. Yn syml iawn, mae Llandudno yn dref glan-môr glasurol. Mae Stryd Mostyn, y brif stryd, yn rhedeg yn gyfochrog â’r promenâd ac yn cynnwys enwau cyfarwydd y stryd fawr yn ogystal â nifer o siopau unigryw. Mae dau barc siopa mawr yn Llandudno hefyd.
Mae’r Gogarth Fawr 207 metr o uchder yn bwrw ei chysgod dros Bier Llandudno. Gallwch gerdded i’r copa os ydych yn teimlo’n egnïol neu beth am deithio ar y tram neu’r car cebl. Ar ôl i chi gyrraedd Pen-y-Gogarth mae digonedd o bethau i’w gwneud, galwch heibio’r ganolfan ymwelwyr, ewch am dro i’r warchodfa natur lle mae geifr gwyllt Kashmir yn crwydro, neu beth am chwarae gêm o golff, gan fwynhau golygfeydd godidog am filltiroedd dros dir a môr.
Cyfeiriadau i Deithio i Landudno
- Mewn car ar hyd yr A55 – 20 milltir, 45 munud
- Mewn trên – O orsaf drenau Prestatyn, gan newid yng Nghyffordd Llandudno, tua 1 awr.
- GPS/Satnav – gallwch ddefnyddio’r cod post canlynol ar gyfer Canolfan Groeso Llandudno: LL30 2RP, bydd yn mynd â chi i ganol y dref.
Pam aros gyda ni?
Mwynhewch ddiwrnod allan yn Llandudno ac arhoswch gyda ni yma yng Ngwesty’r Traethau ym Mhrestatyn lle gallwch ymlacio yn ein hystafelloedd mawr a moethus. Mae pob ystafell yn cynnwys gwelyau hynod o gyfforddus, clustogau mawr a dillad gwely cotwm braf felly byddwch yn siŵr o gael noson dda o gwsg ar ôl diwrnod hir yn crwydro Llandudno.
Fel ein gwestai gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio dan do, sawna a champfa. Gallwch ymlacio yn awyrgylch anffurfiol braf Bar a Bistro’r Promenâd a mwynhau coffi, diod neu goctel neu arhoswch i gael swper a gadewch i’n tîm cyfeillgar eich arwain drwy rai o’r seigiau mwyaf poblogaidd ar ein bwydlenni. Gwesty’r Traethau yw’r llety perffaith os ydych yn chwilio am westai ger Llandudno.