Gwesty’r Traethau
Croeso i Brestatyn
Croeso i Westy’r Traethau, yn nhref hardd Prestatyn. Dewch i fwynhau gwyliau yn ein gwesty moethus gyda golygfeydd o Fôr Iwerddon a bryniau Prestatyn, a Thraeth Barkby ar garreg y drws. Mae ein tîm yma yng Ngwesty’r Traethau yn creu awyrgylch cynnes a chyfforddus lle gallwch ymlacio a chreu atgofion gwych o’ch gwyliau ger y môr yng Ngogledd Cymru, p’run a ydych am fwynhau gwyliau rhamantus neu anturiaethau gyda’r teulu, mae’r dewisiadau yn ddi-ddiwedd.
Yng Ngwesty’r Traethau, mae gennym 79 o ystafelloedd moethus, gyda dewis o swîts, ystafelloedd sengl neu ddwbl, ystafelloedd gyda golygfeydd o’r môr, ac ystafelloedd i’r teulu. Mae pob un o’r 79 ystafell yn gyfforddus ac yn groesawgar, ac yn hollol unigryw. Byddwch yn siŵr o ymlacio yn ein hystafelloedd modern, eang a chyfforddus, a chael noson dda o gwsg.
Gwesty’r Traethau, Prestatyn yw’r lle perffaith i fwynhau gwyliau gyda’r teulu yng Ngogledd Cymru. Gallwch dreulio’r diwrnod yn casglu cregyn, adeiladu cestyll tywod a chael picnic ar dywod euraidd Traeth Barkby sydd ar garreg y drws. Yn ystod eich arhosiad gallwch ddefnyddio ein pwll nofio dan do, neu beth am roi cynnig ar y cwrs golff gwirion a’r maes chwarae antur gwych sydd ychydig funudau yn unig i ffwrdd o Westy’r Traethau ac sy’n boblogaidd iawn ymhilth ein gwesteion ifanc.
Os ydych yn mwynhau chwarae golff, yna gallwch gerdded o Westy’r Traethau i Gwrs Golff Prestatyn, cwrs adnabyddus a phoblogaidd iawn. Mae Prestatyn yn lleoliad gwych i chwaraewyr golff, o’r rhai mwyaf profiadol i chwaraewyr sy’n gymharol newydd i’r gamp. Mae amrywiaeth eang o gyrsiau golff yn ardal Gogledd Cymru ac mae pob un yn cynnig golygfeydd gwych a chyfleusterau rhagorol, a chroeso cynnes iawn i ymwelwyr.
Tref arfordirol a hanesyddol Prestatyn, sydd hanner ffordd rhwng Caergybi a Manceinion, yw terfyn neu fan cychwyn Llwybr Cerdded Cenedlaethol Clawdd Offa ac mae’r ardal gyfagos yn cynnig golygfeydd godidog, Parc Cenedlaethol Eryri a chestyll hanesyddol. Dewch i ddarganfod yr amrywiaeth o weithgareddau lleol ac atyniadau yn ardal Prestatyn a Llandudno. Gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Fryniau Clwyd o’r gwesty a mwynhau’r golygfeydd hardd o’r Twyni gerllaw.
Os ydych yn mwynhau bwyta mewn steil, gallwch flasu bwyd bendigedig yn Bistro a Bar y Promenâd wrth ymyl Traeth Barkby. Dyma’r lle perffaith i fwynhau swper rhamantus i ddau, pryd gyda’r nos i’r teulu, cinio gyda ffrindiau, brecwast neu ginio busnes neu De Prynhawn arbennig. Ac ar ôl eich pryd o fwyd, neu cyn i chi fwyta, beth am eistedd, ymlacio a mwynhau un o’n coctels unigryw, gwirodydd, gwinoedd neu gwrw.
Gwesty’r Traethau yw un o’r lleoliadau gorau ar arfordir y DU i gynnal priodasau a digwyddiadau. Gyda golygfeydd godidog o’r haul yn machlud dros Fôr Iwerddon, dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer priodas. Gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 200 o westeion a bydd Elizabeth, ein cydlynydd priodasau profiadol a phroffesiynol, a’i thîm wrth law bob amser i drefnu’r diwrnod perffaith ar eich cyfer.
Mae croeso cyfeillgar yn aros amdanoch yn ein gwesty ym Mhrestatyn. Archebwch yn uniongyrchol gyda ni i gael y cynigion gorau yng Ngwesty’r Traethau, y cyrchfan delfrydol ar gyfer gwyliau glan-môr.
Moethusrwydd am bris cystadleuol
Gyda’n Cynigion Arbennig yng Ngwesty’r Traethau
Uchafbwyntiau’r Gwesty
Darganfod Arfordir Gogledd Cymru

Ystafelloedd Moethus
Byddwch yn cael y dechrau a’r diwedd gorau i’ch diwrnod yn ein hystafelloedd moethus sydd wedi’u hysbrydoli gan yr arfordir.
DARLLEN MWY
Hamdden a Gweithgareddau
Ger Gwesty’r Traethau
Mwy gennym ni..

Priodasau
Gyda Thraeth Barkby ar garreg ein drws a bryniau Prestatyn, rydym yn cynnig cefnlen berffaith ar gyfer eich priodas ar yr arfordir yma yng Ngwesty’r Traethau.
DARLLEN MWY
Cyfleusterau Hamdden
Ymlaciwch yn ein dewis o gyfleusterau hamdden yng Ngwesty’r Traethau gan gynnwys pwll nofio mawr dan do, jacuzzi, sawna a champfa.
DARLLEN MWY
Oriel
Gwesty’r Traethau Prestatyn yw’r lleoliad perffaith i fwynhau gwyliau ar arfordir Gogledd Cymru. Beth am gymryd golwg ar oriel ein gwesty i weld drosoch eich hun.
DARLLEN MWY
Cynadleddau
Gallwn ddarparu ar gyfer cynadleddau gyda hyd at 200 o gynadleddwyr a digwyddiadau eraill. Bydd ein tîm wrth law i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn a bod pob manylyn yn gywir.
DARLLEN MWY
Teuluoedd
Ydych chi’n chwilio am wyliau i’r teulu yng Ngogledd Cymru? Gwesty’r Traethau ym Mhrestatyn yw’r dewis perffaith ar gyfer gwyliau gyda’r teulu eleni.
DARLLEN MWY