Adolygiadau O'n Priodasau
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn, ar arfordir Gogledd Cymru
Mae Gwesty’r Traethau yn ddewis adnabyddus a phoblogaidd ar gyfer priodasau ar arfordir Gogledd Cymru, ac yn lleoliad gwych i gynnal eich dathliadau.
Byddai Gwesty’r Traethau yn ei hystyried yn fraint i gynnal eich priodas yn nhref Prestatyn ar arfordir Gogledd Cymru. Darllenwch y geiriau o ganmoliaeth isod am ein priodasau a chysylltwch ag Elizabeth, ein cydlynydd priodasau, elizabeth@thebeacheshotel.com os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Peidiwch â chymryd ein gair ni, darllewch beth oedd gan rai o’n parau priod i’w ddweud …..
Yma yng Ngwesty’r Traethau rydym am awyddus i chi glywed barn rhai o’r parau hapus sydd wedi cynnal eu priodasau yma ym Mhrestatyn ar arfordir Gogledd Cymru.
Barn ein Priodferched a Phriodfeibion
Am ein Lleoliad Priodasau ym Mhrestatyn
Diwrnod Perffaith
“O’r cyfarfod cyntaf i’r diwrnod ei hun, aeth popeth yn hwylus iawn. Cafodd yr ystafelloedd eu cadw ar gyfer y gwesteion a chafodd y trefniadau eistedd eu newid yn ôl yr angen. Roedd trefniadau’r seremoni yn berffaith, a chafodd y diodydd yn y derbyniad a’r bwffe poeth eu gweini mewn ffordd gyfeillgar, ac roedd digonedd o fwyd ar gael i bawb. Roedd y disco gyda’r nos yn wych gydag amrywiaeth o gerddoriaeth i blesio pawb. Roedd y llawr dawnsio yn llawn drwy’r amser. Diwrnod perffaith!”
Lleoliad gwych ac roedd Sacha, Elizabeth a’r holl staff yn rhagorol
“Mae Gwesty’r Traethau a’r tîm yn lle gwych i gynnal priodas. O’r cyfarfod cyntaf gydag Elizabeth a’r tîm ac ymlaen i’r derbyniad ei hun a’r parti nos. Roedd y tywydd yn anhygoel ac roedd y machlud haul yn fendigedig. Roeddem yn gallu eistedd allan ar y teras drwy’r prynhawn. Roedd y bwyd a’r gwasanaeth yn wych. Byddem yn cymeradwyo’r gwesty yn fawr iawn.”
Gwirioneddol anhygoel
“Fe wnaethom ni briodi yma ym mis Ionawr 2019 ac o’r eiliad y gwnaethom archebu gwnaeth pawb wneud i ni deimlo’n arbennig, doedd dim byd yn ormod o drafferth ac fe wnaethom ni dderbyn popeth roeddem wedi gofyn amdano, a llawer mwy. Roedd yr holl staff, o’r trefnydd priodasau i reolwr y gwesty mor effeithlon, ac roedden nhw’n barod iawn i helpu bob amser. Rydw i’n edrych ymlaen i wneud fy addunedau priodas unwaith eto yn 2029, a byddaf yn sicr yn dod yma i wneud hynny. Diolch yn fawr i’r tîm.”
Gwasanaeth gwych. Rwy’n cymeradwyo’r lleoliad hwn yn fawr
“Roedd staff Gwesty’r Traethau mor barod i helpu bob amser. Roedd ein diwrnod priodas yn drefnus iawn, roedd y seremoni a’r ystafelloedd wedi’u haddurno’n brydferth, ac roedd y bwyd yn wych. Cawsom ddiwrnod bendigedig ac roeddem wrth ein bodd â’r lleoliad. Rwy’n cymeradwyo’r lleoliad hwn yn fawr iawn i unrhyw un sy’n trefnu priodas.”
Y diwrnod gorau erioed
“Diwrnod hollol anhygoel ac roedd y trefniadau yn wych.
Roedd Elizabeth yn wych hefyd o’r diwrnod y gwnaethon ni gerdded i mewn, ac fe gafodd popeth ei drefnu mor arbennig mewn cyfnod byr iawn, 6 wythnos yn unig ar ôl i ni archebu. Roedd popeth ar y diwrnod yn hollol anhygoel, yn well nag unrhyw beth y gallwn i fod wedi’i ddychmygu.
Mae’r gwesty ei hun yn hyfryd ac roedd y staff yn anhygoel xxx”
Cefnogol iawn yn ystod yr holl newidiadau
“Cafodd ein priodas ei gohirio ddwywaith ac fe wnaeth Elizabeth ein helpu i ymdopi â’r newidiadau. Ar y diwrnod, aeth pethau’n hwylus iawn. Tîm perffaith ar y diwrnod yw un nad oes neb yn sylwi arno. Roedd pawb yn credu bod y lleoliad yn brydferth iawn a bod staff y gwesty yn gyfeillgar.”
Gwesty’r Traethau
“Fe wnaethom ni briodi yng Ngwesty’r Traethau ar ddechrau mis Mehefin 2021, ac oherwydd cyfyngiadau Covid roedd yn rhaid cyfyngu’r gwesteion i 30 yn unig – roedden ni’n meddwl y byddai wedi bod braidd yn ddiflas, ond roedden ni’n hollol anghywir! Roedd yn berffaith. Roedd Liz yn wych o’r diwrnod cyntaf y gwnaethon ni archebu’r dyddiad (a gafodd ei symud o fis Hydref 2020) i’r diwrnod ar ôl y briodas. Doedd dim byd yn ormod o drafferth iddi, ac fe wnaeth hi hyd yn oed fy helpu i wisgo fy ffrog briodas!! Roedd yr holl staff mor hyfryd ac fe wnaethon nhw bopeth i wneud ein diwrnod yn berffaith er yr holl gyfyngiadau. Roedd PAWB yn canmol y bwyd! Rwyf wir yn cymeradwyo’r gwesty hwn.”
Popeth roeddem yn dymuno ei gael
“Roedd Gwesty’r Traethau yn berffaith i ni o’r dechrau i’r diwedd. Roeddem yn chwilio am rywbeth at ein dant ni, ond o fewn ein cyllideb, ac roedd Elizabeth a gweddill staff y gwesty yn anhygoel. Roedd y gwaith cynllunio yn hwylus iawn, fe wnaethon nhw wrando ar ein syniadau a dod â’r diwrnod yn fyw. Rydw i wir yn cymeradwyo Gwesty’r Traethau 100% ar gyfer cynnal eich priodas. Mae’r golygfeydd eu hunain yn arbennig, ond fe gewch chi lawer mwy na hynny. Mae’r staff yn rhagorol, roedd y bwyd yn fendigedig ac roedd y diwrnod cyfan yn berffaith. Dywedodd llawer o’r gwesteion mai dyma’r briodas orau roedden nhw wedi bod iddi erioed.”
Hollol anhygoel
“Elizabeth, diolch yn fawr am wneud ein diwrnod mor hollol anhygoel. Fe wnaethoch chi sicrhau bod popeth yn berffaith, gallwn ni ddim diolch digon i chi am bopeth y gwnaethoch chi ar ein cyfer.
Cariad Mr. a Mrs. Roberts”
Diolch yn fawr iawn iawn
“I Sacha, Elizabeth a’r Tîm yng Ngwesty’r Traethau.
Gair byr i ddweud DIOLCH YN FAWR IAWN IAWN i bawb a wnaeth ein diwrnod mor arbennig. Roedd yn berffaith ym mhob ffordd ac fe wnaeth y staff bopeth i ni. Rydym mor ddiolchgar ac rydym yn gwerthfawrogi gwaith caled pawb a wnaeth sicrhau ei fod yn ddiwrnod mor gofiadwy.”
Llawer o gariad Mr. a Mrs. Coulson
Cymorth ac Arweiniad
“Diolch yn fawr i chi am eich cymorth ac arweiniad wrth drefnu ein priodas.
Llawer o gariad Mr. a Mrs. Jones”
Arbennig iawn
“Elizabeth a’r tîm yng Ngwesty’r Traethau. Diolch yn fawr i bawb am wneud ein diwrnod yn un arbennig iawn. Aeth popeth yn hwylus iawn ac rydym yn gwerthfawrogi’r holl ymdrech.
Cofion Suzy a Chris”
Diwrnod Bendigedig
“I Liz, Diolch yn fawr am dy waith caled i wneud ein diwrnod priodas yn ddiwrnod bendigedig.
Rwyt ti’n seren!”
Cariad Mr. a Mrs. Wood