Maes parcio ceir
Yng Ngwesty’r Traethau
Mae gennym nifer o fannau parcio anabl wrth y brif fynedfa a‘r ardal gollwng. Mae’r prif faes parcio yn union gyferbyn â’r brif fynedfa ac mae arwyddion amlwg yn dangos y ffordd. Hoffem atgoffa gwesteion nad yw Gwesty’r Traethau yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw gerbydau a’u cynnwys a gaiff eu gadael yn y maes parcio.
Rydym yn defnyddio system gamerâu a rhwystr gyda chyfyngiad uchder yn y maes parcio. Mae’r rhwystr yn 2.1 metr o uchder a 3 metr o led. Sylwch, os na all eich cerbyd fynd heibio’r rhwystr, galwch yn y dderbynfa i gael eich cyfeirio at le parcio arall. Mae parcio am ddim i westeion, ond bydd angen i chi roi rhif cofrestru eich cerbyd i’r dderbynfa a chofrestru eich cerbyd ar gyfer cyfnod eich arhosiad.
Mae PARCIO AM DDIM i westeion yn ystod eich arhosiad
Gall pobl nad ydynt yn aros yn y gwesty ddefnyddio’r maes parcio hefyd. Cliciwch yma i weld ein rhestr brisiau.
Os bydd ein maes parcio yn llawn, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos eraill yn agos at Westy’r Traethau .
Sut i gyrraedd yma
Mae Gwesty’r Traethau mewn lleoliad delfrydol tua 20 munud i ffwrdd o Gyffordd 31 yr A55 ar hyd y B5122.
Ffordd Ddwyreiniol y Traeth,
Prestatyn, Sir Ddinbych,
Arfordir Gogledd Cymru, LL19 7LG
Meysydd Parcio ger Gwesty’r Traethau
Os bydd ein maes parcio yng Ngwesty’r Traethau yn llawn, gallwch ddefnyddio’r meysydd parcio talu ac arddangos cyfagos. I wneud pethau’n haws, gallwch lawrlwytho ap JustPark Parking a dod o hyd i le parcio mewn mater o eiliadau gerllaw Gwesty’r Traethau. Gall yr ap ddangos y lleoedd parcio agosaf a rhoi gwybodaeth i chi am leoedd parcio yn yr ardal, a gallwch hefyd archebu eich lle mewn eiliadau a thalu drwy gerdyn neu Google Pay. Gallwch hefyd arbed arian drwy archebu ymlaen llaw a chael cyfarwyddiadau gan yr ap i’ch arwain i’r lle parcio yn hwylus.
Pam aros gyda ni?
Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig dewis o ystafelloedd gwely moethus ar gyfer eich arhosiad. Gallwch ddewis ystafelloedd braf gyda golygfeydd o’r môr neu’r mynyddoedd, ystafelloedd gradd uwch sy’n cynnig mwy o le neu ystafelloedd mawr i’r teulu. Gall ein gwesteion ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio dan do, sawna, jacuzzi a champfa yn cynnwys pob math o offer. Yn ystod eich arhosiad, gallwch fwynhau prydau blasus yng Ngwesty’r Traethau lle rydym yn cynnig dewis eang o fwyd a diod. Mae’r holl fwydlenni wedi cael eu hysbrydoli gan gynhwysion lleol ac yn cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbenigol.