Ein Swît Priodasol
yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Yma yng Ngwesty’r Traethau mae gennym ddewis o ystafelloedd braf lle gallwch chi a’ch parti priodasol dreulio’r noson cyn eich priodas. Ar fore’r briodas mae digon o le i bawb wisgo a pharatoi.
Swît Priodasol y Traethau
Mae lle ar gyfer 5 o westeion yn Swît Priodasol y Traethau.
Ar ôl chi gyrraedd y gwesty o 3pm ymlaen, gallwch ymlacio yn ein pwll, sawna a jacuzzi neu fynd am dro drwy’r twyni tywod neu ar hyd y traeth. Yna beth am fwynhau diod ar deras Bistro a Bar y Promenâd. Gallwch wylio’r haul yn machlud dros Fôr Iwerddon a gwrando ar sŵn y môr ar eich noson olaf fel rhywun sengl.
Digon o le i Baratoi ar Fore eich Priodas
Mae digon o le i chi a’ch parti priodasol ymlacio, gyda digonedd o ardaloedd eistedd, cyfleusterau hongian dillad a bwrdd gwisgo a drych. Gall eich steilydd gwallt, barbwr ac artistiaid colur ymuno â chi ar fore eich priodas. Rydym yn darparu drych hir fel bod pawb yn edrych ar eu gorau.
Mae’r ffenestri gyda golygfeydd gwych dros y môr yn gefnlen hyfryd ar gyfer ffotograffau o’ch ffrog neu siwt briodas berffaith.