Ystafelloedd Teulu ym Mhrestatyn, Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Yma yng Ngwesty’r Traethau, rydym wrth ein bodd yn croesawu teuluoedd, ac mae ein hystafelloedd teulu yn berffaith i deuluoedd sy’n chwilio am westy glan-môr yng Ngogledd Cymru.
Archebwch Ystafell Fawr i’r Teulu
Mae gan bob un o’n Hystafelloedd Teulu olygfa o’r mynyddoedd a digon o le i deulu o bump. Mae’r ystafelloedd teulu yn eang, yn dawel ac wedi’u haddurno mewn lliwiau a deunyddiau croesawgar. Yn ogystal â hyn, mae ein Hystafelloedd Teulu yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite gyda nwyddau ymolchi am ddim, teledu LCD, Wi-Fi am ddim, a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi. Ar ôl cyrraedd bydd plant yn derbyn taleb i gael hufen iâ neu ddiod am ddim.
Hwyl i’r teulu yn ein Gwesty cyfeillgar
Fel ein gwesteion, gallwch chi a’ch teulu ddefnyddio ein holl gyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio mawr cyfoes, sawna, ystafell stêm a champfa. Mae maes chwarae gwych i’r plant bum munud i ffwrdd o Westy’r Traethau, felly os nad ydych am fentro’n rhy bell o’r gwesty mae gan dref Prestatyn a’r ardaloedd cyfagos ddigonedd i’w cynnig.
Gweithgareddau i’r teulu yng Ngogledd Cymru
Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad delfrydol i’ch teulu ddarganfod Prestatyn ac ardal brydferth arfordir Gogledd Cymru. Gyda Thraeth Barkby ar garreg ein drws, gallwch chi a’ch teulu ymlacio ar y traeth, adeiladu cestyll tywod, neu fynd am dro a mwynhau hufen iâ. Mae ein gwesty yn agos at lawer o atyniadau a gweithgareddau poblogaidd y gall y teulu cyfan eu mwynhau, o barciau thema a swau i ardaloedd o harddwch naturiol. Mae digonedd o bethau i chi eu gweld a’u gwneud gyda’r plant ym Mhrestatyn a Gogledd Cymru.
Bwyd bendigedig i’r teulu cyfan
Yng Ngwesty’r Traethau rydym yn cynnig dewis eang o fwyd bendigedig sy’n addas i’r teulu cyfan, gan gynnwys y plant lleiaf. Mae ein bwydlenni wedi cael eu hysbrydoli gan gynhwysion lleol ac maent yn cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbenigol sy’n gallu darparu ar gyfer anghenion deietegol o bob math. Gall teuluoedd fwynhau bwyta ym Mar a Bistro’r Promenâd lle ceir golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru a Bryniau Prestatyn.