Cestyll
Gwesty’r Traethau
Mae gan Gymru fwy o gestyll y filltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ac oherwydd hyn mae’n aml yn cael ei galw’n brifddinas cestyll y byd. Mae Gogledd Cymru yn gyforiog o hanes ac mae’r ardal yn gartref i rai o’r cestyll canoloesol mwyaf poblogaidd a thrawiadol i chi eu darganfod a’u mwynhau.
Cestyll yng Ngogledd Cymru
Beth am ddysgu mwy am hanes a chwedlau Gogledd Cymru wrth i chi ymweld â chestyll ac adfeilion yr ardal a mwynhau golygfeydd godidog ar hyd y daith. Mae dros 100 o gestyll i’w gweld yma ac mae Gogledd Cymru yn gartref i nifer o gaerau canoloesol trawiadol dros ben – o bob maint a math, ac mae gan bob castell ei stori unigryw ei hun.
Os ydych yn bwriadu ymweld â Phrestatyn a Gogledd Cymru rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ceisio gweld o leiaf un o’r cestyll cyfagos yn ystod eich arhosiad.
Adeiladwyd castell Caernarfon yn 1280 gan Edward I, a hwn yw’r castell mwyaf yng Ngogledd Cymru. Gallwch ymweld â Chaernarfon am y dydd o Brestatyn, tua awr o daith mewn car, ac mae’n sicr yn werth yr ymdrech.
Mae Castell Gwrych ger tref farchnad fach Abergele yn ‘gastell’ fwy modern ac fe’i adeiladwyd ar ddechrau’r 1800au. Cartref preifat oedd hwn yn wreiddiol, yna daeth yn safle ar gyfer ailgreu digwyddiadau hanesyddol cyn i’r adeilad gael ei adael yn wag ddegawdau yn ôl. Mae’r castell yn adnabyddus iawn am reswm arall hefyd gan iddo gael ei ddefnyddio fel lleoliad y rhaglen deledu boblogaidd ‘I’m a Celebrity Get Me Out of Here’ yn 2020 a 2021. Mae bellach yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd ac yn ôl pob sôn mae ysbryd un o’r cyn-berchnogion yn dal i grwydro’r safle.
Castell Conwy yw un o bedwar castell mawr Edward I yng Ngogledd Cymru, ynghyd â Chaernarfon, Harlech a Biwmares. Saif Castell Conwy mewn lleoliad dramatig uwchben afon Conwy gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, ac mae’n sicr yn cynnig digonoedd o gyfleoedd i dynnu lluniau trawiadol.
Os nad ydych eisiau teithio’n bell, yna mae Castell Rhuddlan yn ddewis gwych, dim ond 15 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau mewn car. Cafodd Castell Rhuddlan ei gwblhau yn 1282 ac roedd y safle yn lleoliad sawl brwydr waedlyd yn ystod concwest y Brenin Edward I!
Pam Aros gyda ni
Beth am wneud y mwyaf o’r holl gestyll canoloesol yng Ngogledd Cymru ac aros gyda ni yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn. Gallwch dreulio eich dyddiau yn ymweld â’r cestyll niferus yn yr ardal, o Gastell Rhuddlan sydd 15 munud i ffwrdd i Gastell Cricieth, taith tua 90 munud mewn car. Ar ôl diwrnod prysur yn creu atgofion gwych, cewch ddychwelyd i Westy’r Traethau i fwynhau croeso cynnes, ymlacio yn ein pwll nofio dan do, mwynhau cwrw neu goctel ar ein teras yn edrych dros Draeth Barkby neu fwynhau’r bwyd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd.
Rydym wedi llunio rhestr o gestyll gwych y gallwch ymweld â nhw a’u mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni ym Mhrestatyn.
Lluniau diolch i Croeso Cymru. Hawlfraint y Goron gyda Chaniatâd.