Mae Prestatyn yn nefoedd i bawb sy’n mwynhau golff, p’un a ydych yn chwaraewr profiadol, awydd rhoi cynnig ar rownd neu ddau i ymlacio yn ystod eich arhosiad yn y gwesty, neu rydych yn chwilio am her newydd sbon.
Gwesty’r Traethau ar Draeth Barkby yw’r lleoliad perffaith i chwarae golff ym Mhrestatyn ac ardal ehangach Gogledd Cymru – mae nifer o gyrsiau golff gerllaw sydd oll yn cynnig golygfeydd godidog, cyfleusterau gwych a chroeso i ymwelwyr.
Mae Cwrs Golff Pencampwriaeth Prestatyn o fewn tafliad carreg atom yma yng Ngwesty’r Traethau, ac mae’n boblogaidd iawn gyda’n gwesteion.
Mae ein tîm staff ymroddedig bob amser wrth law i gynnig cyngor ac argymhellion. Gallwn eich helpu chi i ddewis cwrs golff addas ac archebu amseroedd.
Mae digonedd o ddewis i chwaraewyr golff yn ardal Prestatyn, ac mae’r holl gyrsiau golff o safon uchel iawn ac yn cynnig golygfeydd bendigedig – a’r cyfan o fewn cyrraedd hwylus iawn i ni yma yng Ngwesty’r Traethau.
Pam Aros gyda ni ym Mhrestatyn
Does dim prinder o gyrsiau golff i chi eu mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni yma yng Ngwesty’r Traethau ar Draeth Barkby. Ar ôl mwynhau diwrnod braf ar y cwrs golff, gallwch ddychwelyd i Westy’r Traethau i fwynhau croeso cynnes yn ein hystafelloedd mawr, cyfforddus. Ar ôl diwrnod yn yr awyr agored byddwch yn barod am bryd blasus felly beth am alw heibio Bistro a Bar y Promenâd neu Fwyty Swît Bryn lle gallwn gynnig rhywbeth at ddant pawb am bris rhesymol, heb sôn am olygfeydd godidog. Gall ein holl westeion hefyd ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio dan do, campfa a sawna.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Westy’r Traethau, Prestatyn.
Cyrsiau Golff ym Mhrestatyn a’r Cylch
Gwesty’r Traethau yw’r Lleoliad Delfrydol

Clwb Golff Prestatyn
DARLLEN MWY
Clwb Golff St Melyd
DARLLEN MWY
Clwb Pennant Park
DARLLEN MWY
Rhuddlan Golf Club
DARLLEN MWY
Clwb Golff y Rhyl
DARLLEN MWY
Clwb Golff Abergele
DARLLEN MWY
Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos
DARLLEN MWY
Clwb Golff Conwy
DARLLEN MWY