Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ennill ein pedwaredd seren ym mis Mehefin 2022.
Er bod gwasanaeth 4 seren wedi bod yn rhan annatod o brofiad ymwelwyr yng Ngwesty’r Traethau, mae’n swyddogol erbyn hyn!
Achrediad Croeso Cymru
Gall gwesteion fod yn hyderus fod Croeso Cymru wedi cynnal asesiad ansawdd fel rhan o’r cynllun swyddogol, cenedlaethol sy’n adolygu ansawdd y busnes gwesty, cysondeb y cynnig ac yn olaf y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael.
Mae gwaith adnewyddu sylweddol wedi trawsnewid ystafelloedd cyhoeddus y gwesty, fel Bistro | Bar y Promenâd, y dderbynfa a’r ystafelloedd gwely yn ystod 2021 a 2022 ac ychwanegwyd sawl ystafell newydd yn yr estyniad sy’n edrych ar draws Môr Iwerddon a’r twyni tywod.
“Fel rhan o’r broses o ennill 4 seren, rydym wedi buddsoddi yn ein tîm, ein hadeilad a’r cyfleusterau, a’r ffordd rydym yn cyflwyno ein busnes ar-lein a wyneb yn wyneb”, dywedodd Sacha Massey, y Rheolwr Cyffredinol. “Mae’r cyfan wedi bod yn bosibl diolch i ymdrechion ein tîm a chontractwyr lleol. Ac mae ymateb ein gwesteion wedi bod yn gadarnhaol iawn”.
Darllen mwy YMA
Archebwch eich Arhosiad yng Ngwesty’r Traethau, Gwesty 4 Seren
Dewch i brofi ein gwasanaeth 4 seren drosoch eich hun. Mae ein Gwesty 4 Seren yn nhref hardd Prestatyn ac ar ymyl traeth Barkby, felly rydym yn ddewis gwych ar gyfer gwyliau mewn gwesty drwy gydol y flwyddyn. Mae gennym 78 o ystafelloedd moethus a chwaethus, pwll nofio dan do, dewis eang o opsiynau bwyta gan gynnwys Bistro a Bar y Promenâd, Wi-Fi a pharcio am ddim a gwasanaeth heb ei ail. Mae’r Gwesty 4 Seren yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau gwyliau cofiadwy ger y môr.