Bistro | Bar y Promenâd
Yng Ngwesty’r Traethau, Gogledd Cymru
Os ydych yn chwilio am rywle i fwyta ym Mhrestatyn, yna rydych wedi dod i’r lle iawn. Ni waeth a ydych yn cyfarfod ffrindiau am goffi a sgwrs neu’n mynd â’r teulu allan i fwynhau pryd blasus yn y bar, Bistro | Bar y Promenâd yw’r lle i ddod ac mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb, ac yn addas i bob cyllideb. Y teras hardd y tu allan i Bistro | Bar y Promenâd yw’r lleoliad perffaith i eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau cwrw neu goctel wrth wylio’r haul yn machlud.
Mae ein bwydlenni, gan gynnwys ein bwydlen di-glwten, yn newid gyda’r tymhorau ac yn cynnwys y gorau o’n cynnyrch lleol, a’r cyfan wedi’i goginio gan ein Prif Gogydd Mark Dixon a’i dîm talentog. Mae prydau a byrbrydau yn dechrau o £8 yn unig, felly gallwch fwynhau bwyd gwych a golygfeydd godidog am bris fforddiadwy.
Rydym yn gweini swper yn Bistro | Bar y Promenâd bob nos. Dewch i fwynhau pryd rhamantus i ddau, neu ddathlu achlysur arbennig yng nghwmni ffrindiau neu theulu gyda golygfeydd gwych o’r môr neu fryniau Prestatyn, gyda goleuadau a cherddoriaeth tawel yn ychwanegu at yr awyrgylch.
Amseroedd Agor
Bwydlen Amser Cinio
Gwenir dydd Llun – dydd Sadwrn
12pm – 5pm
Bwydlen Gyda’r Nos
Gweinir nos Lun – nos Sadwrn
5pm – 9pm
Bwydlen Cinio Dydd Sul
Gweinir bob dydd Sul
12.30pm – 9pm
Bwyta mewn Steil ym Mhrestatyn
Mae croeso i bawb yma yn Bistro | Bar y Promenâd a Swît Bryn, yn westeion ac ymwelwyr. Mae ein staff profiadol a chyfeillgar ar gael bob amser i’ch cynorthwyo ac argymell gwinoedd o’n dewis gwych i gyd-fynd â’ch swper. Os ydych chi’n chwilio am fwyd a gwasanaeth gwych a golygfeydd godidog, Bwyty Bistro | Bar y Promenâd yw’r dewis perffaith.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu i archebu. Ffoniwch ein tîm ar +44(0) 1745 853 072 neu e-bostiwch info@thebeacheshotel.com