Mae Gwesty’r Traethau, Prestatyn, mewn lleoliad braf ar yr arfordir ac mae’n lle gwych i chi weithio ar eich cyflymder eich hun. Mae gan y Gwesty 79 ystafell wely, 2 ystafell gynadledda fawr, WIFI am ddim ym mhob rhan o’r gwesty, parcio am ddim i geir ac ystafelloedd hamdden gyda champfa, pwll nofio dan do, a bwyty Bistro.
Canolfan Gynadledda ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru
Yng Ngwesty’r Traethau, gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 200 o gynadleddwyr ac mae gennym dîm cynadleddau dynodedig i sicrhau bod pob manylyn yn gywir. Rydym yn credu bod Gwesty’r Traethau yn lle perffaith i weithio p’un a ydych chi’n cynnal cynhadledd, cyfarfod, sesiwn hyfforddi, arddangosfa neu gyfarfod cymdeithasol corfforaethol fel swper, dawns neu seremoni wobrwyo.
Gyda mynediad uniongyrchol i Draeth Barkby, cyrsiau Golff a gweithgareddau awyr agored gerllaw, mae Gwesty’r Traethau yn lleoliad delfrydol i feithrin ysbryd a chymhelliant timau sydd wedi methu cyfarfod oherwydd y pandemig.
Cyfleusterau Cyfarfod a Chynadledda
- Mynediad uniongyrchol i’r traeth
- 79 ystafell wely
- 2 ystafell gynadledda fawr
- 5 ystafell gyfarfod
- 2 far trwyddedig
- 2 fwyty
- Pwll nofio
- Sawna, Jacuzzi
- Campfa
- Parcio am ddim
- WIFI am ddim
Llety a Bwyd yn ystod eich Cyfarfod neu Gynhadledd
Mae pob un o’n hystafelloedd i westeion yn chwaethus ac yn eang ac yn lleoliad delfrydol i baratoi ar gyfer eich cynhadledd neu ddigwyddiad, ac ymlacio a gorffwys ar ôl diwrnod caled o waith neu ddiwrnod hir ar y ffordd, neu hyd yn oed i gael seibiant rhwng cyfarfodydd. Fel teithiwr corfforaethol rydym yn deall fod angen i chi gadw mewn cysylltiad â phobl eraill drwy’r amser a bydd ein gwasanaeth Wi-Fi cyflym a dibynadwy yn eich ystafell ac ar draws y gwesty yn eich galluogi i wneud hyn.
Ar ôl diwrnod prysur, gall ein gwesteion corfforaethol ymlacio yn ein cyfleusterau hamdden gan ymweld â’r pwll nofio neu’r gampfa. Neu gallwch fwynhau swper neu ddiod ym Mar a Bistro’r Promenâd Bar a chael cyfle i edrych ar eich negeseuon e-bost.