Dyddiau Allan yng Ngogledd Cymru
Arhoswch yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Mae tref glan-môr Prestatyn mewn lleoliad perffaith ar arfordir Môr Iwerddon, i’r dwyrain o’r Rhyl, ac mae digonedd o ddewis os ydych am fynd am ddiwrnod allan yn ystod eich arhosiad yma yng Ngwesty’r Traethau. O’r gwesty, gallwch ymweld â rhai o’r atyniadau ym Mhrestatyn ac ardal Arfordir Gogledd Cymru, ac mae rhywbeth at ddant pawb, o bob oed.
Dyddiau Allan ym Mhrestatyn a Gogledd Cymru
Arhoswch ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru i fwynhau digonedd o ddewisiadau o ddyddiau allan, yn cyfuno hanes, diwylliant, natur, antur a hwyl. Ni waeth a ydych chi’n teithio ar eich pen eich hun, fel pâr, gyda’r teulu neu fel rhan o griw, mae llawer o’r prif atyniadau o fewn cyrraedd hwylus mewn car. Os nad ydych eisiau crwydro’n rhy bell, gallwch fwynhau Traeth Barkby, traeth euraid gwych ar garreg ein drws sy’n arwain at Draeth Canol Prestatyn â’i forgloddiau creigiog a phromenâd llydan – lle gwych i fynd am dro a chael picnic ar unrhyw adeg o’r dydd.
Os ydych yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored mae digonedd o lwybrau cerdded, beicio a mynydda i’w darganfod a’u mwynhau. Os ydych yn ymddiddori mewn hanes cyfoethog, mae llawer o gestyll canoloesol yn ardal Prestatyn ac ar hyd arfordir Gogledd Cymru yn aros i chi ymweld â nhw. Gyda chymaint o ddewisiadau gwahanol, byddwch yn sicr o ddod o hyd i’ch diwrnod allan perffaith yn ystod eich arhosiad yng Ngwesty’r Traethau.
Pam Aros gyda Ni
Dewch i aros gyda ni yng Ngwesty’r Traethau lle mae digonedd o ddewisiadau ar gyfer trefnu diwrnod allan. Ar ôl diwrnod prysur yn mwynhau diwrnod allan ym Mhrestatyn ac ardal gyfagos arfordir Gogledd Cymru, cewch ddychwelyd i Westy’r Traethau i fwynhau croeso cynnes, gwasanaeth a bwyd o’r safon uchaf a noson wych o gwsg yn sŵn y môr yn un o’n hystafelloedd moethus.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**