Ystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Os ydych chi’n chwilio am rywle moethus i aros, ein Hystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr yw’r dewis perffaith. Gyda golygfeydd rhannol ond godidog o’r môr ar hyd arfordir Gogledd Cymru, dyma’r lle delfrydol i wylio’r haul yn codi ac yn machlud dros Fôr Iwerddon, gan wneud eich arhosiad yn ein Hystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr yn arbennig iawn.
Ystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr yng Ngogledd Cymru
Mae pob un o’n Hystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr yng Ngwesty’r Traethau yn unigryw, ac yn cynnig teimlad cartrefol braf, ni waeth a ydych chi’n mwynhau gwyliau hamdden byr neu’n aros am resymau busnes. Mae pob Ystafell Ddwbl gyda Golygfa o’r Môr yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite gyda nwyddau ymolchi am ddim, teledu Clyfar, Wi-Fi am ddim, a chyfarpar te/coffi.
Ymunwch â ni ym Mar a Bistro’r Promenâd i fwynhau pryd blasus wrth y bar a golygfeydd godidog dros Fôr Iwerddon. Mae ein bwydlenni yn newid gyda’r tymhorau ac yn cynnwys cynhwysion ffres gwych wedi’u coginio gan ein Prif Gogydd a’i dîm. Gyda staff cyfeillgar yn cynnig gwasanaeth gwych a bwyd blasus, Bar a Bistro’r Promenâd yw’r lle perffaith i eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau eich pryd.
Archebwch Ystafell Ddwbl yn Uniongyrchol i Arbed Arian
Mae dyluniad a maint pob ystafell yn wahanol, mae’r lluniau yn enghreifftiol yn unig
Mathau Eraill o Ystafelloedd
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafelloedd Dwbl Moethus + Golygfa o'r Môr
Beth am eich sbwylio’ch hun ac aros yn ein Hystafelloedd Dwbl Gradd Uwch.
DARLLEN MWYPam Aros Gyda Ni
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Coctêls neu Ddiodydd ar ôl Swper
Ar ôl swper, beth am flasu un o’n coctêls blasus, arbennig.
DARLLEN MWY