Ystafelloedd Dau Wely gyda Golygfa o’r Môr
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Os ydych yn chwilio am rywle moethus i aros, ein Hystafelloedd Dau Wely gyda Golygfa o’r Môr yng Ngwesty’r Traethau yw’r dewis perffaith. Gyda golygfeydd rhannol ond godidog o’r môr ar hyd arfordir Gogledd Cymru a seddi rhes flaen i wylio’r haul yn codi ac yn machlud dros Fôr Iwerddon, bydd treulio noson yn ein Hystafelloedd Dau Wely gyda Golygfa o’r Môr yn gwneud eich arhosiad yn arbennig iawn.
Ystafelloedd Dau Wely gyda Golygfa o’r Môr
Mae ein Hystafelloedd Dau Wely gyda Golygfa o’r Môr yng Ngwesty’r Traethau yn cynnig golygfeydd rhannol ond godidog o Fôr Iwerddon. Mae pob ystafell yn unigryw ac yn cynnig teimlad cartrefol, braf, ni waeth a ydych chi’n mwynhau gwyliau byr neu’n aros am resymau busnes.
Yma yng Ngwesty’r Traethau, rydym yn falch iawn o weini cynnyrch ffres, lleol. Gallwn ddarparu ar gyfer eich holl anghenion deietegol a bydd ein cogyddion yn hapus i’ch helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gyda staff cyfeillgar yn darparu gwasanaeth gwych a bwyd blasus, mae Bar a Bistro’r Promenâd yn lle perffaith i ymlacio a mwynhau diod a phryd o fwyd.
Mae dyluniad a maint pob ystafell yn wahanol, mae’r lluniau yn enghreifftiol yn unig
Mathau Eraill o Ystafelloedd
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafelloedd Dau Wely
Mae ein hystafelloedd dau wely moethus gyda golygfeydd rhannol o’r môr yn berffaith ar gyfer gwyliau byr ar Arfordir Gogledd Cymru.
DARLLEN MWYPam Aros Gyda Ni
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Coctêls a Diodydd
Ymunwch â ni ym Mar a Bistro’r Promenâd i fwynhau ein coctêls blasus, arbennig.
DARLLEN MWYGwyliau Golff
Mae Gwesty’r Traethau mewn lleoliad gwych i chwarae golff ym Mhrestatyn ac ardal Gogledd Cymru yn ehangach.
DARLLEN MWY