Lleoliad
Yng Ngwesty’r Traethau
Mae Gwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru, yn edrych dros Fôr Iwerddon, ger tref hardd Prestatyn. Mae’r Gwesty 20 munud i ffwrdd o Gyffordd 31 yr A55 oddi ar y B5122, 35 munud o Gonwy, 46 munud o Gaer ac un awr o Fanceinion.
Cyfarwyddiadau
Taith 20 munud o Gyffordd J31 yr A55 oddi ar y B5122
- Conwy 22.7 milltir (35 munud)
- Caer 29.9 milltir (46 munud)
- Maes awyr Lerpwl 51 milltir (1 awr 9 munud)
- Caergybi 58.3 milltir (1 awr 14 munud)
- Maes awyr Manceinion 59.7 milltir (1 awr 15 munud)
Maes parcio ceir
Mae PARCO AM DDIM i westeion yn ystod eich arhosiad
Mae gennym nifer o fannau parcio anabl wrth y brif fynedfa a‘r ardal gollwng. Mae’r prif faes parcio yn union gyferbyn â’r brif fynedfa ac mae arwyddion amlwg yn dangos y ffordd. Hoffem atgoffa gwesteion nad yw Gwesty’r Traethau yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw gerbydau a’u cynnwys a gaiff eu gadael yn y maes parcio.
Gall pobl nad ydynt yn aros yn y gwesty ddefnyddio’r maes parcio hefyd. Cliciwch yma i weld ein rhestr brisiau.
Os bydd ein maes parcio yn llawn, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos eraill yn agos at
Westy’r Traethau.
Ffyrdd eraill o gyrraedd yma
Ar y trên:
Yr orsaf drenau agosaf yw Prestatyn, taith 5 munud mewn car o Westy’r Traethau. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf yn ogystal â swyddfa dacsis ger yr orsaf, ar ochr Canol y Dref. Gallwch gael prisiau trenau a’r amseroedd teithio diweddaraf i Orsaf Prestatyn gan Trainline drwy glicio yma. (https://www.thetrainline.com/stations/prestatyn) Neu, gallwch ffonio’r Gwesty ymlaen llaw a bydd aelod o dîm y dderbynfa yn hapus i archebu tacsi ar eich cyfer.
Ar awyren:
Mae Maes awyr Manceinion tua 1 awr ac 20 munud i ffwrdd mewn car. Mae gorsaf drenau yn y maes awyr a gallwch ddal trên yma i Brestatyn (bydd rhaid newid ar y ffordd ar rai trenau). Neu, gallwch archebu tacsi ymlaen llaw eich hun neu gall aelod o dîm y dderbynfa archebu tacsi ar eich rhan (cost taith unffordd yw tua £85.00). Gellir llogi ceir yn y maes awyr hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. (https://www.manchesterairport.co.uk/at-the-airport/car-rental/)
Mae Maes awyr Lerpwl tua 1 awr a 10 munud i ffwrdd. Nid oes gorsaf drenau yn y maes awyr a’r orsaf agosaf yw Liverpool South Parkway. (https://www.northernrailway.co.uk/stations/liverpool-south-parkway) Gallwch archebu tacsi ymlaen llaw eich hun neu gall aelod o dîm y dderbynfa archebu tacsi ar eich rhan. Gellir llogi ceir yn y maes awyr hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. (https://www.liverpoolairport.com/travel-extras/car-hire)
Beicio
Mae nifer o lwybrau beicio prydferth iawn o amgylch Gogledd Cymru, ac maent oll o fewn cyrraedd hwylus i Westy’r Traethau. Gallwn storio nifer cyfyngedig o feiciau. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Gwesty ar 01745 853072 a bydd aelod o Dîm y Dderbynfa yn barod iawn i roi mwy o fanylion i chi. Dysgu mwy am Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 NCR5.