Ystafelloedd Dwbl Bach ym Mhrestatyn
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd Dwbl cysurus yng Ngwesty’r Traethau yn fforddiadwy ac yn ddewis da ar gyfer arhosiad byr. Ni waeth a ydych yn ceisio cadw costau i lawr, yn gweithio yn yr ardal neu’n teithio ar eich pen eich hun, yr ystafelloedd hyn yw’r lle perffaith i orffwys ar ôl diwrnod prysur.
Archebwch ein Hystafelloedd Dwbl Bach – gwerth gwych am arian
Mae ein Hystafelloedd Dwbl Bach yn gysurus ac wedi’u haddurno’n gain, ac mae pob un yn cynnig golygfeydd gwych o gefn gwlad Cymru. Mae’r ystafelloedd dwbl bach yn gyfforddus iawn ac yn cynnig popeth mae ei angen arnoch i fwynhau arhosiad ym Mhrestatyn, gyda mynediad uniongyrchol i Draeth Barkby. Mae pob ystafell yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim a chyfarpar te/coffi. Rydych yn siŵr o fwynhau noson dda o gwsg yn ein gwelyau cyfforddus â’u dillad gwely braf.
Yn ystod eich arhosiad, gallwch fwynhau bwyd blasus yng Ngwesty’r Traethau lle rydym yn cynnig dewis eang o fwyd a diod. Galwch heibio Bar a Bistro’r Promenâd, lle byddwch yn derbyn gwasanaeth gwych gan ein staff cyfeillgar a bwyd bendigedig.
Mae dyluniad a maint pob ystafell yn wahanol, mae’r lluniau yn enghreifftiol yn unig
Mathau Eraill o Ystafelloedd
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafelloedd Dwbl
Mae ein Hystafelloedd Dwbl yn berffaith i gyplau sy’n chwilio am rywle i fwynhau gwyliau ymlaciol, braf.
DARLLEN MWYYstafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr
Mae ein hystafelloedd dwbl gyda golygfa o’r môr yng Ngwesty’r Traethau yn eang iawn, ac yn edrych draw am y twyni tywod gyda golygfeydd rhannol o’r môr.
DARLLEN MWYYstafelloedd i Ddau
Mae ein hystafelloedd moethus i ddau gyda golygfeydd rhannol o’r môr yn berffaith ar gyfer noson i ffwrdd gyda ffrindiau.
DARLLEN MWYYstafelloedd Sengl
Ymlaciwch ym moethusrwydd ein Hystafelloedd Sengl eang, sy’n cynnwys gwely braf maint tri-chwarter.
DARLLEN MWY