Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer eich diwrnod priodas ar arfordir Gogledd Cymru. Gyda Thraeth Barkby ar garreg ein drws a bryniau Prestatyn yn y cefndir, rydym yn cynnig golygfeydd delfrydol a fydd yn gefnlen hyfryd i’ch ffotograffau.
Lleoliad ar gyfer Priodas ar arfordir Gogledd Cymru
Lleoliad delfrydol ar yr arfordir i gynnal priodas yng ngogledd Cymru yn nhref hardd Prestatyn, 30 munud i ffwrdd o Gaer, 1 awr o Lerpwl, 1.5 awr o Fanceinion a 2.5 awr o Lundain. Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig dewis o bedwar Swît Priodasol hardd, sydd oll wedi’u trwyddedu’n llawn.
Pam dewis Gwesty’r Traethau
Rydym yn deall mai diwrnod eich priodas yw un o ddyddiau mwyaf cyffrous eich bywyd ac un sy’n gofyn am waith cynllunio a threfnu manwl. Bydd Elizabeth, ein cydlynydd priodasau profiadol ac ymroddedig, a’r tîm cyfan yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnig cymorth a chyngor.
Rydym wedi ymrwymo i wneud diwrnod eich priodas mor arbennig â chi, gan olygu y gallwch chi a’ch gwesteion ymlacio a mwynhau’r diwrnod. Rydym yn cynnig pecynnau wedi’u teilwra a dewisiadau personol sy’n addas i’ch cyllideb a’ch anghenion personol.
Priodasau
Yng Ngwesty’r Traethau

Eich Priodas ger y Traeth
Gydag golygfeydd o Fôr Iwerddon, twyni tywod trawiadol, a thraethau a bryniau Prestatyn, Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod priodas ar yr arfordir.
DARLLEN MWY
Pecynnau Priodas
Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig pob math o becynnau priodas gyda dewisiadau sy’n addas i bob cyllideb, er mwyn i chi drefnu eich priodas ddelfrydol.
DARLLEN MWY
Ffair Briodasau
Beth am ymuno â ni yn un o’n ffeiriau priodasau i weld ein gwesty hyfryd wedi’i gosod yn arbennig ar gyfer priodas, a chael sgwrs gyda’n tîm priodasau a digwyddiadau.
DARLLEN MWY
Oriel Briodasau
Mae llawer o’n cyplau a’u ffotograffwyr wedi bod yn ddigon caredig i rannu rhai o’u lluniau o’u diwrnod priodas arbennig ar yr arfordir.
DARLLEN MWY
Ymholiadau Priodas
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy lenwi ffurflen ymholiad neu ffoniwch 01745853072.
GWNEUD YMHOLIAD NAWR