Polisi Preifatrwydd / GDPR
Gwesty’r Traethau
Polisi The Hydropathic Hotel Pitlochry Limited (sy’n masnachu o dan yr enw The Beaches Hotel), yw parchu eich preifatrwydd mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth y gallwn ei chasglu wrth weithredu ein gwefan. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn gymwys i https://www.thebeacheshotel.com/ (o hyn allan, “ni”, “y wefan” “gwefan”, neu “ https://www.thebeacheshotel.com/“). Rydym yn parchu eich preifatrwydd ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod yn bersonol y gallech ei rhoi i ni drwy’r Wefan. Rydym wedi mabwysiadu’r polisi preifatrwydd hwn (“Polisi Preifatrwydd”) i esbonio pa wybodaeth all gael ei chasglu ar ein Gwefan, sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon, ac o dan ba amgylchiadau y gallwn ddatgelu’r wybodaeth i drydydd partïon. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn gymwys i’r wybodaeth rydym yn ei chasglu drwy’r Wefan yn unig, ac nid yw’n gymwys i wybodaeth a gesglir gennym o ffynonellau eraill.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â’r Telerau ac Amodau a nodir ar ein Gwefan, yn amlinellu’r rheolau a’r polisïau cyffredinol sy’n rheoli eich defnydd o’n Gwefan. Yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn ei wneud wrth ymweld â’n Gwefan, mae’n bosibl y gofynnir i chi gytuno i delerau ac amodau ychwanegol.
Ymwelwyr â’r Wefan
Rydych yn ddienw ar y Wefan hon nes i chi roi gwybodaeth i ni yn fwriadol.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni o’ch gwirfodd, fel eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, gwybodaeth cerdyn credyd a dewis o ystafell, mae eich gwybodaeth yn cael ei hengryptio os caiff ei throsglwyddo dros borwr Secured Sockets Layer (SSL), sydd ar gael ar borwyr fel Netscape Navigator neu Microsoft Internet Explorer. Bydd yr eicon clo ar ochr dde isaf eich sgrin yn dangos clo wedi’i gloi a bydd llythrennau cyntaf cyfeiriad y Safle yn newid o “http” i “https” os ydych yn cael mynediad at weinydd diogel. Ar ôl i’r wybodaeth ein cyrraedd, rydym yn ei storio y tu ôl i fur gwarchod diogel sy’n atal mynediad i’r wybodaeth y tu allan i’n gweinydd.
Rydym yn addo cadw’r wybodaeth breifat rydych yn ei rhoi i ni yn gyfrinachol. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n gweithwyr, gwerthwyr arnodedig, asiantiaid ac aelodau cyswllt i gadarnhau natur gyfrinachol eich gwybodaeth ac i beidio â’i rhannu ag unrhyw drydydd parti.
Ni fyddwn yn gwerthu, masnachu, rhentu neu ryddhau eich gwybodaeth breifat i unrhyw un y tu allan i’n cwmni heb dderbyn eich cymeradwyaeth a rhoi cyfle i chi optio allan. Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth i bartïon sy’n gofyn amdani o dan y gyfraith neu byddwn yn ei defnyddio i wneud gwiriadau credyd, adrodd am ddyledion neu eu casglu.
Os byddwch yn gadael y Safle drwy ddilyn dolennau ar y Safle, nid ydym yn gyfrifol am breifatrwydd na pholisïau eraill ar y safleoedd hynny.
Fel y rhan fwyaf o weithredwyr gwefannau, mae The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn casglu gwybodaeth nad yw’n eich adnabod yn bersonol, o’r math y mae porwyr a gweinyddwyr gwe yn eu darparu fel arfer, fel y math o borwr, dewis iaith, safle cyfeirio, a dyddiad ac amser pob cais i ymweld. Mae The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn casglu gwybodaeth o’r fath er mwyn deall yn well sut mae defnyddwyr The Hydropathic Hotel Pitlochry yn defnyddio ei wefan. O bryd i’w gilydd, gall The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd ryddhau gwybodaeth nad yw’n eich adnabod yn bersonol yn yr ystadegau cyfunol, e.e., drwy gyhoeddi adroddiad ar dueddiadau o ran y defnydd o’i wefan.
Mae The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd hefyd yn casglu gwybodaeth a allai eich adnabod yn bersonol, fel cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd (IP) ar gyfer defnyddwyr sy’n gadael adolygiadau / sylwadau ar wefan www.thebeacheshotel.com. Mae The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn datgelu cyfeiriadau IP defnyddwyr a phobl sy’n gadael sylwadau o dan yr un amgylchiadau â’r rhai a ddefnyddir wrth ddatgelu gwybodaeth sy’n adnabod pobl yn bersonol fel y nodir isod.
Casglu Gwybodaeth sy’n eich Adnabod yn Bersonol
Mae rhai pobl sy’n ymweld â safleoedd gwe The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn dewis rhyngweithio gyda Holiday Cottage Group Ltd mewn ffyrdd sy’n golygu bod angen i The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd gasglu gwybodaeth sy’n eich adnabod yn bersonol. Mae maint a’r math o gwybodaeth y mae The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn ei chasglu yn dibynnu ar natur y rhyngweithio.
Mewnblaniadau Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn cynnwys rhai teclynnau cyfryngau cymdeithasol ar ein gwefan, fel fideos YouTube a botymau Facebook. Er mwyn gwneud hyn rydym yn mewnblannu’r cod maent yn ei ddarparu ac nid ydym yn rheoli hyn ein hunain. Er mwyn gweithio mae’r teclynnau hyn fel arfer yn gwybod eich bod wedi mewngofnodi; er enghraifft, mae Facebook yn defnyddio hyn er mwyn dweud bod ‘x o’ch ffrindiau yn hoffi hwn’. Nid oes gennym fynediad at yr wybodaeth hon, ac ni allwn reoli sut bydd y rhwydweithiau hynny yn ei defnyddio.
E-gylchlythyr
Rydym yn hoffi rhoi’r newyddion diweddaraf i’n gwesteion am ddigwyddiadau a chynigion arbennig yng Ngwesty’r Traethau ac rydym yn gwneud hyn drwy anfon e-gylchlythyr atynt yn achlysurol. At y diben hwn, rydym yn cadw rhestrau postio marchnata, sy’n cael eu storio a’u rheoli gan Web Smart Media. Gallwch ddewis peidio â derbyn y negeseuon e-bost hyn ar unrhyw adeg, naill ai drwy glicio ar y ddolen ‘datdanysgrifio’ neu drwy gysylltu â ni yn uniongyrchol.
Cwcis
Yn syml iawn, math o dechnoleg yw cwci sy’n cofio rhywbeth amdanoch, ar ffurf darnau bach iawn o ddata rydym yn eu storio yn eich porwr gwe. Bob tro y byddwch yn ymweld â’n gwefan mae cwcis yn cael eu hanfon atom, gan ein galluogi i’ch adnabod fel yr un unigolyn a wnaeth ymweld â’r wefan yn flaenorol. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu nodweddion er mwyn cofio pwy ydych chi, ac mae’n darparu data i ni sy’n ein galluogi i wella ein gwefan. Trwy barhau i bori drwy’r wefan, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis. Os hoffech gyfyngu ar y defnydd o gwcis gallwch wneud hyn drwy fynd i osodiadau eich porwr; mae rhagor o wybodaeth am gwcis a sut i’w hatal ar gael yma. Gweler uchod am sut i ddewis peidio â chytuno i ddefnydd Google o gwcis yn benodol.
Diogelwch
Mae diogelwch eich Gwybodaeth Bersonol yn bwysig i ni, ond cofiwch nad yw unrhyw ddull o drosglwyddo dros y Rhyngrwyd, na dull storio electronig yn 100% ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau safonol y diwydiant i ddiogelu eich Gwybodaeth Bersonol, ni allwn gwarantu ei bod yn gwbl ddiogel.
Hysbysebion
Gall hysbysebion sy’n ymddangos ar ein gwefan gael eu hanfon at ddefnyddwyr gan bartneriaid hysbysebu, a all osod cwcis. Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i weinydd yr hysbyseb adnabod eich cyfrifiadur bob tro y mae’n anfon hysbyseb ar-lein atoch er mwyn casglu gwybodaeth amdanoch chi neu bobl eraill sy’n defnyddio eich cyfrifiadur. Mae’r wybodaeth hon yn galluogi rhwydweithiau hysbysebu i anfon hysbysebion wedi’u targedu, ymhlith pethau eraill, y maent yn credu a fydd o ddiddordeb i chi. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r defnydd o cwcis gan The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd ac nid yw’n ymwneud â’r defnydd o cwcis gan unrhyw hysbysebwyr. Gweler ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.
Dolennau at Safleoedd Allanol
Gall ein Gwasanaeth gynnwys dolennau at safleoedd allanol nad ydym yn eu gweithredu. Os byddwch yn clicio ar ddolen trydydd parti, byddwch yn cael eich cyfeirio at safle’r trydydd parti. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn adolygu’r Polisi Preifatrwydd a’r telerau ac amodau bob tro y byddwch yn ymweld â safle.
Nid oes gennym reolaeth dros unrhyw safleoedd trydydd parti, eu cynhyrchion neu wasanaethau ac nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb dros eu cynnwys, polisïau preifatrwydd neu arferion.
Ystadegau wedi’u Cyfuno
Gall The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd gasglu ystadegau am ymddygiad ymwelwyr â’r wefan. Gall The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd ddangos yr wybodaeth hon yn gyhoeddus neu ei rhoi i eraill. Fodd bynnag, ni fydd The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn datgelu gwybodaeth a fydd yn eich adnabod yn bersonol.
Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd
Er mai mân newidiadau fydd y rhain yn ôl pob tebyg, gall The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd newid ei Bolisi Preifatrwydd o dro i dro, ac mae gan The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yr hawl i wneud hynny. Mae The Hydropathic Hotel Pitlochry Ltd yn annog ymwelwyr i edrych ar y dudalen hon yn aml rhag ofn y bydd unrhyw newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd. Bydd eich defnydd parhaus o’r safle hwn ar ôl gwneud unrhyw newid i’r Polisi Preifatrwydd yn gyfystyr â’ch bod yn derbyn unrhyw newid o’r fath.
Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn
Mae’r Rhaglen yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd i’w Defnyddwyr ar y tudalen hwn, a thrwy sicrhau bod yr Wybodaeth Bersonol yn cael ei diogelu yn gyfatebol ym mhob achos. Argymhellir yn gryf eich bod yn edrych ar y tudalen hwn yn aml, gan gyfeirio at ddyddiad y newid diweddaraf a restrir ar y gwaelod.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni. Gallwch ysgrifennu atom hefyd: Gwesty’r Beaches, Beach Road East, Prestatyn, Sir Ddinbych LL97LG, Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig
Rhif y cwmni SC221024