Rydym wedi dechrau cyfrif y dyddiau tan Ddydd Gwener y Gwario (Black Friday) a Dydd Llun Lloerig ar-lein (Cyber Monday), dyddiau siopa mwyaf y flwyddyn yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn ac mae gennym Sêl Dydd Gwener y Gwario a Dydd Llun Lloerig ar-lein anhygoel ar eich cyfer. Mae ein cynigion gwych ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, felly’r cyntaf i’r felin!
Cynigion Dydd Gwener y Gwario a Dydd Llun Lloerig ar-lein
Gallwch deithio pryd bynnag rydych yn ei ddymuno a dewis y dyddiau sydd orau i chi, ond cofiwch mai’r cyntaf i’r felin yw hi! Dyna pam mae cynigion Dydd Gwener y Gwario a Dydd Llun Lloerig ar-lein Gwesty’r Traethau yn gyfle perffaith i chi wneud eich trefniadau yn fuan a pharatoi i fwynhau arhosiad ger yr arfordir ym Mhrestatyn, am bris is.
Gostyngiad o 30% ar Arhosiad Dwy Noson neu fwy neu 50% pan fyddwch yn talu ymlaen llaw
Ar gyfer Dydd Gwener y Gwario eleni rydym yn cynnig gostyngiad gwych o 30% ar ein cynigion dwy noson neu fwy rhwng 30 Tachwedd 2022 tan ddiwedd mis Mehefin 2023. Neu gallwch gael gostyngiad o 50% ar ein cynnig dwy noson neu fwy rhwng 30 Tachwedd 2022 a 31 Mawrth 2023 pan fyddwch yn talu’n llawn ymlaen llaw wrth archebu. Beth am drefnu rhywbeth y gallwch edrych ymlaen ato a dod i aros gyda ni yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn ar arfordir Gogledd Cymru. Gydag amrywiaeth o ystafelloedd moethus , y gwasanaeth gorau, dewisiadau bwyd gwych, cyfleusterau hamdden a lleoliad ardderchog, ein gwesty ar arfordir Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ymlacio. Ni waeth a ydych yn teithio ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, teulu neu eich partner, mae gennym bopeth ar eich cyfer yma yng Ngwesty’r Traethau.
Gostyngiad Ychwanegol o 25% ar Dalebau Anrheg dros £100
Gallwch gael gostyngiad ychwanegol o 25% ar Dalebau Anrheg gwerth dros £100 sy’n cael eu prynu yn ystod ein Sêl Dydd Gwener y Gwario a Dydd Llun Lloerig ar-lein. Gellir defnyddio ein talebau anrheg i dalu am fwyd o’r safon uchaf, gwinoedd cain, a llety moethus yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn. Gair i gall – dyma’r cyfle perffaith i brynu anrheg Nadolig i rywun!
Ni waeth a ydych yn chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith i rywun annwyl, yn rhoi anrheg fach i chi eich hun, neu’n cynllunio eich gwyliau yma yng Ngogledd Cymru, dyma eich cyfle i fanteisio ar ein harbedion gwych yma yng Ngwesty’r Traethau. Cymerwch olwg ar ein cynigion Dydd Gwener y Gwario a Dydd Llun Lloerig ar-lein isod cyn iddi fynd yn rhy hwyr.