Digwyddiadau Castell Gwrych
Ger Gwesty’r Traethau
Mae Castell a Stad Gwrych yn Abergele sydd 30 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau, Prestatyn mewn car.
Ymweld â’r Ysgol Hud a Lledrith
Bydd yr ‘Ysgol Hud a Lledrith’ newydd yn brofiad rhyngweithiol ac unigryw a bydd cyfle i ymwelwyr o bob oedran gymryd rhan mewn heriau a gwersi fydd yn eu swyno a’u cyfareddu, gan gynnwys dosbarth swynau, ysgol hedfan ysgubau, creu diodydd hud a llawer mwy. Bydd yr holl weithgareddau yn cael eu harwain gan griw o ddewiniaid a phroffesoriaid gwyllt a gwallgof a phob math o gymeriadau eraill.
Dyddiadau ac Amseroedd Agor a Phrisiau
Bydd Ysgol Hud a Lledrith Castell Gwrych yn agor ddydd Sadwrn, 11 Chwefror 2023 ac yn cael ei chynnal tan ddydd Sul, 26 Chwefror 2023. Y bwriad yw agor ar sawl dyddiad arall yn ystod y flwyddyn, a bydd y manylion yn cael eu cadarnhau a’u cyhoeddi cyn bo hir.
Y newyddion da yw bod tâl mynediad i’r Ysgol Hud a Lledrith wedi’i gynnwys ym mhris tocynnau mynediad cyffredinol y castell, sy’n addas i bobl o bob oedran. Gallwch brynu tocynnau ar wefan Castell Gwrych . Rydym yn argymell eich bod yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi, mae’r dyddiadau sy’n cynnwys yr Ysgol Hud a Lledrith yn gwerthu’n gyflym.
Prisiau Mynediad
£10 i Oedolion
£5 i Blant
£30 i Deulu (2 Oedolyn a 3 o blant)
Amseroedd Agor (yn ystod y tymor)
10.00am – 5.00pm bob dydd, mynediad olaf am 4.00pm