O’r diwedd, mae’n amser dechrau cynllunio ar gyfer gwyliau gartref yng Ngogledd Cymru a’r DU. Dyma’r amser perffaith i grwydro ardal brydferth Prestatyn a Gogledd Cymru. Mae’n amser dianc, ymlacio, ac ailgysylltu â byd natur wrth i ni ddychwelyd i drefn arferol bywyd a mwynhau golygfeydd godidog o’r haul yn codi ac yn machlud wrth gerdded ar y traeth, darganfod safleoedd hanesyddol a rhoi cynnig ar weithgareddau awyr agored.
Gwyliau Glan-môr yng Ngogledd Cymru
Pa le gwell i ddod i aros na Gwesty’r Traethau? Bydd ein lleoliad gwych ar Draeth Baner Las Barkby, gerllaw Gwarchodfa Natur Twyni Gronant, yn gwneud i chi deimlo’n dda ar unwaith, ac yn falm i’r enaid. Cerddwch ar y tywod euraid, teimlo’r moresg yn eich dwylo ac anadlu gwynt y môr. Traeth Barkby yw un o draethau glanaf y DU. Mae digonedd o bethau difyr i’w gweld a’u gwneud ym Mhrestatyn ond mae hefyd mewn lleoliad canolog a chyfleus, 30 milltir i ffwrdd o ddinas hanesyddol Caer, traethau euraidd ac arfordir prydferth Ynys Môn a natur wyllt Eryri.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ar gyfer eich Gwyliau Haf yn y DU.
Trefniadau Canslo Hyblyg a Hwylus
Yma yng Ngwesty’r Traethau rydym eisiau i’n gwesteion gael profiad hwylus a diffwdan o’r adeg pan fyddwch yn archebu eich ystafell nes i chi adael. Gallwch ganslo neu newid ystafelloedd a phecynnau am ddim hyd at 48 awr cyn y dyddiad y byddwch yn cyrraedd.
Archebwch yn Uniongyrchol i Arbed Arian
Archebwch eich gwyliau haf yn uniongyrchol gyda ni i fanteisio ar y cyfraddau gorau sydd ar gael.
Beth sydd wedi’i gynnwys:
- Brecwast
- Wifi
- Parcio i geir
- Mynediad uniongyrchol i’r traeth drwy Far y Promenâd (Traeth Baner Las)
- Trefniadau Canslo Hyblyg
- Croeso Cynnes
- Pwll nofio* a Chyfleusterau hamdden
Gwyliau i’r Teulu
Gwyliau hanner tymor yw’r amser perffaith i fwynhau gwyliau gartref yng Ngogledd Cymru. Dyma wyliau perffaith i’r teulu gyda digonedd o bethau i’w gwneud, antur, hwyl ar lan y môr, hanes, bywyd gwyllt a golygfeydd. Ni waeth a ydych am aros yn lleol a mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig ger Gwesty’r Traethau, neu ddefnyddio Prestatyn fel canolfan i ddarganfod Gogledd Cymru, rydych yn siŵr o greu atgofion gwych yma.

Gwyliau Haf
Bargeinion gwyliau gwych yng Ngwesty'r Beaches yng Ngogledd Cymru yr haf hwn.
Archebwch nawr