Dewch i fwynhau Gwyliau Hanner Tymor y mis Hydref hwn yn nhref Prestatyn, Gogledd Cymru ac aros yng Ngwesty’r Traethau, gwesty 4 seren . Rydym yn cynnig lleoliad glan-môr perffaith ar arfordir Gogledd Cymru i fwynhau dewis eang o weithgareddau ac atyniadau lleol dros Wyliau Hanner Tymor. Dewiswch o’n Gwyliau i Ddau neu ein Gwyliau Hanner Tymor i Deuluoedd pan fydd plant yn derbyn anrheg wrth gyrraedd cyn swper, neu er mwyn cael ychydig o hwyl gall y plant gyrraedd yma yn eu gwisgoedd Calan Gaeaf.
Llety Glan-môr Moethus
Yng Ngwesty’r Traethau Prestatyn, rydym yn cynnig dewis o ystafelloedd moethus sy’n addas ar eich cyfer. O ystafelloedd dwbl ac ystafelloedd dau wely i ystafelloedd i deuluoedd, byddwch yn cael arhosiad cyfforddus a chofiadwy yn ystod eich Gwyliau Hanner Tymor yng Ngogledd Cymru. Mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys gwelyau cyfforddus, clustogau a dillad gwely glân braf, a dwfe cynnes meddal felly rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Gyda golygfeydd gwych ar draws Traeth Barkby a Môr Iwerddon a mynediad uniongyrchol i’r traeth gallwch ymlacio a mwynhau’r machlud, sŵn y môr, WIFI am ddim a phob math o gyfleusterau modern yn eich ystafell.
Hwyl i’r Teulu yn ein Pwll Nofio
Mae ein pwll nofio dan do mawr a modern, sawna, jacuzzi a champfa ar gael i’n holl westeion yn ystod eu harhosiad. Gallwch fwynhau nofio’n hamddenol yn y pwll neu ymlacio yn y jacuzzi. Sylwer, mae defnydd o’r gampfa, jacuzzi a sawna yn gyfyngedig i westeion dros 16 oed.
Dyddiau allan llawn hwyl ym Mhrestatyn
Yn ystod eich Gwyliau Hanner Tymor ym Mhrestatyn mae digonedd o atyniadau a gweithgareddau i’w mwynhau, hyd yn oed ar ddyddiau gwlyb. O weithgareddau anturus i hanes lleol, bywyd gwyllt a golygfeydd, mae digonedd o ddewis i’r teulu cyfan pan fyddwch yn aros yng Ngwesty’r Traethau. Gallwch ymgolli yn hanes a chwedlau Gogledd Cymru wrth i chi ymweld â chestyll yr ardal, a bydd cyfle i’r plant weld adeiladau ac adfeilion hynafol a dysgu am eu hanes.
Os ydych yn chwilio am antur, yna beth am fwynhau diwrnod llawn hwyl a chyffro yn Zip World Fforest. Gall y teulu cyfan fynd ar saith antur yn y goedwig ac mae rhywbeth ar gyfer pob oedran: Zip Safari, Plummet, Fforest Coaster neu beth am fentro ar siglen uchaf Ewrop, Skyride. Os ydych yn mwynhau bod yn yr awyr agored mae digonedd o lwybrau beicio a llwybrau cerdded i’w darganfod a’u mwynhau. Mae SC2, parc dŵr gwych dan do ac awyr agored y Rhyl, 13 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau, ac mae’n ffefryn mawr gyda phlant a rhieni. Mae pob math o reids a llithrenni dŵr sy’n addas i bob oedran, yn ogystal â chyfle i badlo yn y pwll traeth, neu beth am ymweld â’r cwrs chwarae antur dan do – mae digonedd o ddewis i bawb.
Bwyd Blasus yn ystod eich Gwyliau Hanner Tymor
Dewch i fwynhau bwyd blasus yma yng Ngwesty’r Traethau ym Mar a Bistro’r Promenâd. Rydym yn cynnig dewis eang o fwydlenni ar gyfer ein gwesteion gan gynnwys seigiau ysgafn a phrydau blasus drwy’r dydd, yn ogystal â golygfeydd godidog ar draws Fôr Iwerddon a’r bryniau uwchben Prestatyn. Mae ein bwydlenni amrywiol yn newid gyda’r tymhorau ac yn cynnwys dewis eang o seigiau cig, pysgod, dofednod, llysieuol a fegan sydd wedi’u paratoi gan ein Prif Gogydd Mark Dixon a’i dîm talentog gan ddefnyddio cynnyrch ffres, lleol. Ar ôl swper, gallwch ymlacio a mwynhau ein coctels unigryw neu flasu ein dewis o wirodydd, gwinoedd neu gwrw.
Noson Guto Ffowc ym Mhrestatyn
Gall Noson Guto Ffowc ym Mhrestatyn fod yn un o nosweithiau mwyaf cyffrous y flwyddyn. Bydd digonedd o ddigwyddiadau Guto Ffowc ym Mhrestatyn a beth bynnag yw’r tywydd, mae parti tân gwyllt ym Mhrestatyn bob amser yn denu torf fawr.
Mae ein Gwyliau Hanner Tymor i Ddau yn cynnwys:
- 2 noson mewn llety moethus
- Brecwast à la Carte bob bore
- Swper 3 chwrs blasus bob nos
Mae ein Gwyliau Hanner Tymor i Deuluoedd yn cynnwys:
- 2 noson yn ein hystafelloedd eang i deuluoedd
- Brecwast à la Carte bob bore
- Mynediad i Sw Caer a bocs bwyd am ddim ar ddiwrnod o’ch dewis
Ni waeth a ydych yn teithio gyda ffrind, cymar neu’r teulu, mae rhywbeth at ddant pawb yng Ngwesty’r Traethau. Archebwch eich Gwyliau Hanner Tymor ar ein gwefan i gael y cynigion gorau.
