Archebwch yn uniongyrchol i fwynhau Gwyliau yn y Gaeaf yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn ar arfordir Gogledd Cymru, yn cynnwys bwyd blasus tymhorol, gwinoedd cain a chyfle i fynd am dro yn aer ffres y gaeaf ar y twyni a’r traeth. Gallwch gadw’n gynnes ac yn glyd yma wrth fwynhau gwyliau rhamantus, sgwrs a chlonc gyda ffrindiau dros benwythnos, diwrnod neu ddau yn chwarae golff neu wyliau gyda’r teulu cyfan, gan adael i’n staff cyfeillgar ddiwallu eich holl anghenion.
Ymlaciwch yn ein Hystafelloedd Clyd
Ymlaciwch yn ein gwelyau cyfforddus a’u clustogau meddal, dillad gwely glân a dwfes cynnes ar ôl diwrnod prysur yn darganfod Prestatyn ac arfordir Gogledd Cymru. Mae ein holl ystafelloedd yn gyfforddus ac yn eang ac yn cynnwys teledu clyfar, Wi-Fi am ddim, nwyddau ymolchi a chyfleusterau gwneud te/coffi. Fel ein gwestai gallwch ddefnyddio ein pwll nofio dan do, y ffordd berffaith i ymlacio yn ystod eich Gwyliau yn y Gaeaf.
Bwyd a diod tymhorol ym Mhrestatyn
Yng Ngwesty’r Traethau rydym yn cynnig dewis eang a blasus o fwyd a diod ar gyfer ein gwesteion. Rydym yn cynnig bwyd tymhorol o safon uchel ym Mistro a Bar y Promenâd lle gallwch fwynhau prydau ysgafn, blasus drwy’r dydd ynghyd â golygfeydd godidog ar draws Fôr Iwerddon a bryniau Prestatyn. Ar ôl swper, ymlaciwch a mwynewch ein coctels tymhorol neu ein dewis o wirodydd, gwinoedd neu gwrw.
Darganfod yr ardal ar eich Gwyliau yn y Gaeaf
Gwisgwch eich dillad cynnes yn barod ar gyfer eich gwyliau wrth i chi ddarganfod y gorau o ardal Prestatyn. Y gaeaf yw un o’r amseroedd harddaf o’r flwyddyn i ymweld â’r holl atyniadau lleol ar arfordir Gogledd Cymru. Gallwch fynd am dro yn y twyni tywod ac ar draws Traeth Barkby, traeth baner las sydd ar garreg ein drws, ac anadlu aer ffres y môr. I fwynhau golygfeydd gaeafol godidog yng Ngogledd Cymru, ewch draw i Eryri i weld yr eira ar gopaon y mynyddoedd, neu beth am wylio’r haul yn codi o Lwybr Arfordir Ynys Môn.
Hwyl yr Ŵyl yng Ngogledd Cymru
Dros dymor yr ŵyl bydd cannoedd o gogyddion artisan, artistiaid lleol a pherfformwyr yn heidio i farchnadoedd tymhorol ar draws Gogledd Cymru. Yn ystod eich arhosiad yng Ngwesty’r Traethau, manteisiwch ar y cyfle gwych i ddarganfod rhai o’n trefi a phentrefi hardd a mwynhau hwyl yr ŵyl.
P’un a ydych yn chwilio am gyfle i wneud eich siopa Nadolig, gwyliau byr gyda’ch anwyliaid, neu noson neu ddwy yng nghwmni ffrindiau a theulu, ni fydd Gwesty’r Traethau yn eich siomi dros gyfnod yr ŵyl. Archebwch yn uniongyrchol i gael y cyfraddau gorau.
Gwyliau yn y Gaeaf
Archebwch yn uniongyrchol i fwynhau moethusrwydd Gwyliau yn y Gaeaf ym Mhrestatyn ar arfordir Gogledd Cymru yng Ngwesty’r Traethau.
