Archebwch eich Gwyliau’r hydref hwn yng Ngwesty’r Traethau, gwesty 4 seren ym Mhrestatyn i wylio’r dail yn troi o wyrdd i aur o garreg ein drws. Yr hydref yw un o dymhorau prydferthaf y flwyddyn i fwynhau’r golygfeydd gwych o’n lleoliad ar lan y môr. Ewch am dro ar Draeth Barkby ac anadlu aer ffres yr hydref, crwydrwch ar hyd arfordir Gogledd Cymru neu cerddwch ar ein dewis o lwybrau lleol, gwledig a chlywed dail yr hydref yn crensian o dan eich traed.
Ymlaciwch yn ein Llety 4-Seren
Mae ein hystafelloedd mawr a chyfforddus yn berffaith ar gyfer gwyliau ym Mhrestatyn yr hydref hwn. Rydym yn cynnig sawl math o ystafell ac mae pob un yn cynnwys cyfleusterau modern, felly mae gennym rywbeth at ddant pawb. Mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys dillad gwely braf felly byddwch yn siŵr o gael noson dda o gwsg, ynghyd â theledu clyfar, Wi-Fi am ddim, nwyddau ymolchi am ddim a chyfleusterau gwneud te/coffi. Fel eich gwestai, gallwch ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden felly gallwch ymlacio yn ein pwll nofio dan do, sawna, jacuzzi a champfa.
Bwyta mewn Steil yr hydref hwn
Yma yng Ngwesty’r Traethau, rydym yn ymfalchïo yn ein cynnyrch lleol, ffres ac rydym yn cynnig dewis eang o fwyd a diodydd sy’n addas i bawb. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion deietegol gwahanol a bydd ein cogyddion yn hapus iawn i’ch helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gyda staff cyfeillgar yn darparu gwasanaeth gwych a bwyd blasus, dyma’r lle perffaith i ymlacio a mwynhau eich pryd gyda’r nos. Ar ôl swper, gallwch fwynhau un o’n coctels unigryw neu flasu ein dewis o wirodydd, gwinoedd neu gwrw.
Darganfod Gogledd Cymru yn ystod eich Gwyliau yn yr hydref
Mae Cymru yn hardd iawn ar yr adeg hon o’r flwyddyn wrth i’r dail droi’n enfys o liwiau coch, brown a melyn. Bydd y traethau a’r mynyddoedd ychydig yn dawelach, felly bydd digon o gyfle i fynd am dro a mwynhau’r awyr agored. Gallwch ymgolli yn hanes a chwedlau Cymru yr hydref hwn wrth i chi ddarganfod cestyll, adfeilion a golygfeydd godidog Gogledd Cymru. Mae digon o bethau i bobl o bob oedran eu mwynhau yn ystod gwyliau gyda ni yn yr hydref, o’r atyniadau a’r gweithgareddau ym Mhrestatyn i ardal ehangach Gogledd Cymru.