Dewch i greu atgofion a dathlu’r Flwyddyn Newydd mewn steil ar yr arfordir yng Ngwesty’r Traethau, gwesty 4-seren yng Ngogledd Cymru, y lle perffaith i ffarwelio â 2022.
Cinio Nos Galan
Dewch i ddathlu’r Flwyddyn Newydd mewn steil ac archebu cinio Nos Galan yng Ngwesty’r Traethau, gwesty 4-seren. Rydym yn gweini cinio tri-chwrs gyda’r nos, ynghyd â gwydraid o prosecco wrth i chi gyrraedd, £45 i oedolion ac £20 i blant.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cinio Nos Galan, neu i archebu eich lle, ffoniwch ein tîm ar +44(0) 1745 853072 neu anfonwch e-bost: info@thebeacheshotel.com
Gwyliau 2 noson dros y Flwyddyn Newydd
Gallwch gyrraedd Gwesty’r Traethau, ar 30 neu 31 Rhagfyr i fwynhau gwyliau byr 2-noson dros gyfnod y Flwyddyn Newydd. Byddwn yn gweini brecwast á la carte arbennig bob bore, ac yna gallwch fynd am dro braf ar hyd Traeth Barkby, ar garreg ein drws. Neu beth am ymlacio yn ein cyfleusterau hamdden sy’n cynnwys pwll nofio mawr, dan do, sawna a jacuzzi. Bydd ein dathliadau Nos Galan yn dechrau gyda gwydraid o prosecco cyn eich pryd tri-chwrs arbennig.
Ymlaciwch mewn Gwesty 4-Seren
Mae ein hystafelloedd eang a chlyd yn cynnig llety perffaith ym Mhrestatyn. Mae gennym ddewis o ystafelloedd gwahanol, sydd oll yn cynnwys cyfleusterau modern, felly mae gennym rywbeth at ddant pawb. Rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd sy’n cynnwys gwelyau a dillad gwely braf a chyfforddus, teledu clyfar, gwasanaeth Wi-Fi am ddim, nwyddau ymolchi a chyfleusterau te/coffi.
Mae ein gwyliau Blwyddyn Newydd yn cynnwys:
- Llety am ddwy noson
- Brecwast à la carte bob bore
- Cinio arbennig Nos Galan: pryd 3-chwrs blasus a gwydraid o prosecco wrth i chi gyrraedd
Dewch i ddathlu gyda Theulu a Ffrindiau dros y Flwyddyn Newydd yng Ngwesty’r Traethau.
Gwyliau’r Flwyddyn Newydd
Dewch i greu atgofion a dathlu’r Flwyddyn Newydd mewn steil ar yr arfodir gyda theulu a ffrindiau yng Ngwesty’r Traethau, gwesty 4-seren yng Ngogledd Cymru.
Archebwch Nawr