Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5
Ger Gwesty’r Traethau
Dewch i ddarganfod llwybr beicio cenedlaethol rhif 5 ar hyd yr arfordir. Does dim traffig ar y llwybr hwn ac mae beicio yn ddewis hawdd iawn os ydych yn ymweld â Gogledd Cymru. Mae’r rhan brydferth hon o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cysylltu Prestatyn ag Abergele ac mae’n cael ei chynnal gan Sustrans. Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5 yn cysylltu Reading â Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys trefi hanesyddol yn ogystal ag ardaloedd cefn gwlad ac arfordir Gogledd Cymru.
Mae arwyddion clir ar hyd Llwybr 5 ac mae’r darn 9.9 milltir o hyd yn cymryd tua 48 munud i’w gwblhau, ond mae’n bosibl y byddwch yn cael eich temtio i aros i fwynhau’r olygfa ar y daith. Mae’r llwybr yn addas i deuluoedd ac os nad ydych wedi dod â’ch beiciau eich hun, mae beiciau ar gael i’w rhentu o The Bike Hub yn y Rhyl, naill ai am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Gallwch gyrraedd y Llwybr Beicio yn hawdd iawn o Westy’r Traethau.
Gweld Llwybr 5 ar Fap OS
Lluniau: Blue Bug Photography
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**