Marine Lake
Ger Gwesty’r Traethau
Adeiladwyd y llyn pwrpasol hwn yn 1895 fel atyniad i’r ymwelwyr a arferai heidio i’r Rhyl i fwynhau’r ffair, y cychod bach a llithren fawr Marine Lake. Dŵr y môr sy’n llenwi’r llyn.
Taith gerdded Marine Lake
Symudodd y ffair i ardal Ocean Beach yn y pen draw, ond mae’r llyn yn dal i fod yn nodwedd amlwg iawn yn y Rhyl hyd heddiw. Mae nifer o ffeithiau difyr wedi’u gosod ar hysbysfyrddau o amgylch y llyn, gan gynnwys gwybodaeth am y llyn a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddo a gerllaw.
Mae’r trên bach, a agorwyd yn wreiddiol yn 1911, yn dal i ddenu ymwelwyr hyd heddiw ac mae’n boblogaidd iawn ymhlith plant ac oedolion. Mae’r rheilffordd bellach yn cael ei rhedeg gan elusen sy’n cynnal gwahanol weithgareddau yno drwy’r flwyddyn. Mae chwaraeon dŵr fel sgïo dŵr a tonfyrddio yn cael eu cynnal yno hefyd i’r rheini sydd wedi cael caniatâd ymlaen llaw. Dyma daith gerdded hyfryd i bawb, ac mae’n addas i gŵn.
Gall y plant fwynhau’r parc bach ar y safle hefyd. Mae Marine Lake 15 munud i ffwrdd mewn car o Westy’r Traethau ac mae digon o le i barcio yno. Mae parc siopa newydd Marina Cei y drws nesaf hefyd.
Marine Lake
Ffordd Wellington
Y Rhyl
LL18 1AQ
Lluniau: Blue Bug Photography
Pam Aros gyda Ni
Ar ôl diwrnod gwych allan yn mwynhau’r llyn, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**