Mynd â’r Ci am Dro ym Mhrestatyn a’r Cylch
Ger Gwesty’r Traethau
Os ydych yn dod â’ch cyfaill (blewog) gorau gyda chi i Chalets Gwesty’r Traethau dyma 5 lle gwych i fynd â’r ci am dro ym Mhrestatyn a’r cylch.
Mynd â’r Ci am dro ym Mhrestatyn
Prestatyn i Bromenâd y Rhyl
Dyma gyfle gwych i fwynhau golygfeydd godidog ar hyd arfordir Gogledd Cymru ar y llwybr arbennig hwn ar hyd y Promenâd, sydd ar garreg drws Gwesty’r Traethau. Gallwch chi benderfynu ar hyd y daith, ond mae tref y Rhyl tua 5 milltir i ffwrdd. Os ydych awydd mentro ychydig ymhellach, beth am gerdded yr holl ffordd i’r harbwr a Phont y Ddraig, sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar. Mae’n olygfa hyfryd gyda’r nos pan fydd y bont wedi’i goleuo.
Marine Lake, Y Rhyl
Ewch am dro i weld y trên bach stêm yn teithio o amgylch Marine Lake, Y Rhyl. Mae’r daith o amgylch y llyn tua milltir o hyd. Beth am gyfrif sawl gwaith gallwch chi gerdded o’i gwmpas?! Mae’r llyn 10 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau mewn car, ond os nad oes gennych gerbyd gallwch ddal bws a mynd â’r ci gyda chi (mae hyn yn wir am bob un o’r teithiau cerdded eraill yn yr adran hon).
Traeth Talacre
Mae Traeth Talacre yn lleoliad hyfryd, tua 10 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau mewn car. Yn sefyll yn dalsyth ar y traeth tywodlyd mae Goleudy’r Parlwr Du sy’n dyddio’n ôl i 1776. Dylai pawb sy’n dod i’r ardal geisio ymweld â’r safle unigryw hwn.
Coetir a Ffermdir Brodorol, Ffynnongroyw
Os ydych yn mwynhau teithiau cerdded mwy anturus, dyma’r dewis perffaith i chi. Mae’r tir yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Coetir a gallwch ddewis o ddwy daith: 2 awr o hyd neu daith 3 awr o hyd. Cewch eich arwain drwy goedwigoedd deiliog gyda nentydd troellog ac anifeiliaid fferm. Mae maes parcio am ddim gerllaw. Mae’r daith yn dechrau tua 15 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau.
Taith gerdded o Ruddlan i’r Rhyl ar hyd yr afon
Mae’r daith hon yn dechrau ar y bont gerllaw safle hanesyddol Castell Rhuddlan a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yn 1277. Mae digon o arwyddion ar hyd y daith ac mae’n eithriadol o hardd. Os ydych yn teimlo’n egnïol gallwch gerdded yr holl ffordd draw i Marine Lake y cyfeiriwyd ato uchod.
**Hawlfraint y Goron. Mae’r lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**