Parc Gwepra
Ger Gwesty’r Traethau
Mae Parc Gwepra yn safle gwyrdd 160 acer yng nghanol Cei Connah, tua 40 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau mewn car.
Parc Gwepra
Mae Parc Gwepra yn lleoliad unigryw gyda gwahanol gynefinoedd a daeareg. Gall y cyhoedd ymweld â Gerddi’r Hen Neuadd, Brook a’r Rhaeadr, cerdded ar hyd y llwybr drwy aceri o goetir hardd ac ymweld â Chastell Ewloe. Yn ogystal â hyn, mae’r parc hefyd yn gartref i’r maes chwarae gorau am ddim i blant yn yr ardal, dau gae pêl-droed, pwll pysgota sy’n cael ei reoli’n dda, a Chanolfan Ymwelwyr. Gallwch barcio am ddim a mwynhau’r ardal chwarae i blant, y parc sglefrio a’r caffi ar ddechrau’r llwybr. Mae’r daith gerdded 40 munud o hyd yn un eithaf hawdd ac yn arwain drwy’r coetir at Gastell Ewloe, a gallwch ymweld â’r castell am ddim hefyd. Mae’n ardal boblogaidd iawn i wylio adar, cerdded a rhedeg, felly byddwch yn siŵr o ddod ar draws pobl eraill wrth i chi gerdded. Mae’n lle gwych i fynd am dro bach neu ymlacio gyda ffrindiau a theulu. Mae digonedd o fyrddau picnic ar hyd y daith ac ardaloedd o laswellt ger y castell lle gallwch gael seibiant cyn cerdded yn ôl ar hyd y llwybr i’r caffi. Mae yno ardd ffurfiol a phwll hefyd. Dylai teuluoedd â phlant bach gymryd gofal gan fod nant yn rhedeg islaw’r llwybr ac nid oes unrhyw ffensys, felly byddwch yn ofalus.
Pam aros gyda ni yng Ngwesty’r Traethau
Ar ôl diwrnod prysur yn crwydro Parc Gwepra, gallwch ddychwelyd i awyrgylch braf Gwesty’r Traethau i fwynhau croeso cynnes a chyfeillgar, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a chynhesrwydd eich ystafell lle rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Gallwch hefyd fwynhau ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
Archebwch Eich Arhosiad
Rydym yn cynnig llety braf a moethus gyda mynediad am ddim i’n cyfleusterau hamdden. Dewch i fwynhau ac ymlacio wrth aros y nos gyda ni.
ARCHEBWCH NAWR