Pwll Nofio
Yng Ngwesty’r Traethau yng Ngogledd Cymru
Beth am brofi gwir foethusrwydd yng Ngwesty’r Traethau ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do mawr a modern. Mae’r pwll yn cynnwys ffenestri mawr eang sy’n gadael i’r golau naturiol lifo i’r ystafell, gan roi teimlad braf hyd yn oed ar y dyddiau mwyaf diflas yn ystod misoedd y gaeaf. Ni waeth pa adeg o’r flwyddyn y byddwch yn aros gyda ni, byddwch yn mwynhau profiad unigryw wrth ddefnyddio ein cyfleusterau. Mae ein pwll nofio ar agor bob dydd felly gallwch gadw’n heini neu ymlacio’n llwyr yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau.
Cyfleusterau Pwll Nofio i Westeion
Beth am gael hoe o brysurdeb a straen bywyd bob dydd, a mwynhau ein pwll nofio modern yn ystod eich arhosiad. Dyma’r ffordd berffaith i ymlacio cyn mwynhau pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd, lle mae rhywbeth at ddant pawb. Does dim angen poeni os bydd y tywydd yn newid eich cynlluniau gan fod y pwll nofio ar agor i westeion bob dydd.
Ar agor bob dydd – 6:45am tan 8pm
Pam Aros gyda Ni
Beth am fwynhau diwrnod yn y pwll ac aros gyda ni yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn, cyn ymlacio ymhellach yn un o’n hystafelloedd moethus ac eang. Mae pob ystafell wedi’i theilwra’n arbennig ar gyfer anghenion ein gwesteion er mwyn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl, ac mae’r gwelyau braf yn cynnwys clustogau mawr a dillad gwely o ansawdd, felly rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Pan fyddwch yn aros gyda ni, beth am fwynhau ein dewisiadau bwyd blasus – mae ein cogyddion arbenigol yn paratoi prydau blasus gan ddefnyddio cynnyrch lleol ffres a gallant ddarparu ar gyfer anghenion pawb. Mae ein staff cyfeillgar a chymwynasgar yn edrych ymlaen at eich croesawu.